Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd 2025

Published: 14/01/2025

Fe hoffai Cyngor Sir y Fflint atgoffa preswylwyr i adnewyddu eu tanysgrifiadau ar gyfer Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd y Cyngor sy’n ailddechrau 1 Mawrth 2025 ac yn cael ei gynnal tan 28 Tachwedd 2025. 

Gall preswylwyr gofrestru ar gyfer y cynllun unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond rydym yn annog pobl i gofrestru'n fuan er mwyn sicrhau eu bod yn elwa o'r gwasanaeth casglu llawn yn ystod y tymor, yn ogystal â'r pris tanysgrifiad gostyngol sydd ar gael ar neu cyn 27 Chwefror 2025.  Mae tanysgrifiadau cyn y dyddiad hwn, neu ar-lein trwy gydol y tymor yn £35 y bin. Ar ôl 3 Mawrth 2025, bydd y pris sylfaenol yn £38 y bin (os nad ydych yn talu ar-lein). 

Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth unrhyw bryd, trwy fynd i wefan y Cyngor, ein ffonio ar 01352 701234 neu ymweld â’ch Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu leol.

Meddai’r Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint: “Wrth i ni edrych ymlaen at dymor 2025, fe hoffwn annog preswylwyr i gofrestru’n fuan ar gyfer y gwasanaeth poblogaidd iawn hwn fel eu bod yn cael budd o’r gwasanaeth casglu llawn a’r gyfradd ostyngol. Mae’r casgliad bin brown yn wasanaeth gwych i helpu preswylwyr ailgylchu mwy, ac mae’r gwastraff gardd sy’n cael ei gasglu yna’n cael ei gompostio ac mae ar gael, yn rhad ac am ddim, i breswylwyr mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Os wnaethoch chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd dros y blynyddoedd diwethaf (2023 neu 2024), byddwch wedi derbyn math newydd o sticer gyda sglodyn RFID wedi’i fewnosod. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi’n derbyn sticer newydd eleni pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu, bydd yr un sydd eisoes wedi’i atodi i’ch bin yn gweithio unwaith eto, gan gymryd eich bod yn tanysgrifio i dderbyn y gwasanaeth eto eleni.  Rhowch eich bin brown allan i’w gasglu pan fydd y gwasanaeth yn ailddechrau a bydd eich gwastraff gardd yn cael ei gasglu.  Os na wnaethoch chi gofrestru am y gwasanaeth yn 2023 neu 2024, anfonir pecyn sticer atoch unwaith y byddwch wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth. 

I danysgrifio ar-lein, ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan: Gwastraff Gardd

Ni fydd y system dalu ar gael rhwng 6pm ddydd Iau 27 Chwefror ac 8am ddydd Llun 3 Mawrth. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.