Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriad cyhoeddus creu lleoedd Treffynnon
Published: 08/01/2025
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal sesiynau galw heibio yn Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu yn Nhreffynnon, lle mae pobl leol yn cael eu hannog i helpu llunio dyfodol y dref.
Gan ddefnyddio Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae’r Cynllun Creu Lleoedd drafft bellach wedi’i ddatblygu ar sail data, ymchwil a barn y cyhoedd. Mae bellach wedi cyrraedd y cam drafft terfynol i’w rannu gyda’r cyhoedd er mwyn ymgynghori arno ymhellach, cyn i’r Cyngor a’i bartneriaid allanol ystyried ei fabwysiadu.
Bydd yr ymgysylltiad diweddaraf hwn yn gadael i aelodau’r cyhoedd weld y cynllun drafft, y blaenoriaethau allweddol a nodwyd, a’r dull a gynigir i roi’r cynllun ar waith. Mae’r arolwg yn ceisio canfod barn y cyhoedd am y blaenoriaethau a’r camau gweithredu a gynigir.
Dechreuodd y gweithgaredd ymgynghori cychwynnol yn 2023, pan ofynnwyd i’r cyhoedd rannu eu canfyddiadau am Dreffynnon fel rhan o broses i ddatblygu ‘Cynlluniau Creu Lleoedd’ ar gyfer saith canol tref dros y 18 mis nesaf. Ar ôl cael dros 900 o ymatebion i’r ymgynghoriad ar-lein ac wyneb yn wyneb, mae gwaith wedi parhau i ddatblygu’r Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Treffynnon.
Bydd cyfle i bobl leol gymryd rhan mewn sesiwn galw heibio i roi adborth wyneb yn wyneb. Cynhelir y sesiynau hyn yn Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu yn Nhreffynnon:
Dydd Llun 13 Ionawr 2025: 14:00-16:00
Dydd Mawrth 14 Ionawr 2025: 13.00-15.00
Dydd Mercher 15 Ionawr 2025: 13.00-15.00
Dydd Iau 16 Ionawr 2025: 13.00-15.00
Dydd Gwener 17 Ionawr 2025: 14:00-16:00
Bydd Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn bresennol ddydd Llun 13 Ionawr a dydd Gwener 17 Ionawr, os hoffech chi siarad yn uniongyrchol â’r tîm, ond bydd cyfle hefyd i lenwi arolygon adborth unrhyw dro o fewn oriau agor y swyddfa.
Mae’r gweithgarwch Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei arwain gan Dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o wasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner allanol. Gwneir hyn mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol yng Nghymru sefydlu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer eu trefi. Mae angen y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru fod ar gael i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi yn y dyfodol.
Bydd y Cynlluniau Creu Lleoedd yn nodi gweledigaeth y dyfodol ar gyfer pob tref, yn amlinellu blaenoriaethau a all helpu gwella bywiogrwydd ac atyniad cyffredinol y lleoliad, ac yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r trefi. Mae datblygu’r cynlluniau ar gyfer pob tref yn creu cyfleoedd i amrywiaeth o fudd-ddeiliaid gydweithio’n well er mwyn gwneud gwelliannau.