Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwella hygyrchedd ar hyd y llwybr arfordirol yn sir y Fflint

Published: 15/11/2024

Bydd gwaith yn dechrau fis nesaf i wella hygyrchedd Llwybr Arfordir Cymru, fel rhan o brosiect newydd ac uchelgeisiol.

Mae cyllid wedi’i sicrhau o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint, ac fel rhan o’r gwaith hwn, mae adolygiad manwl wedi’i gynnal o hygyrchedd.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydnabod bod yna sawl rhwystr ar hyd blaendraeth aber Afon Dyfrdwy ar hyn o bryd, sy’n cyfyngu ar allu pobl i fwynhau Llwybr Arfordir Cymru ac mae’n ei ystyried fel blaenoriaeth i wella mynediad. 

Gan weithio â’n partneriaid yn Heddlu Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Sustrans a gyda chynghorwyr lleol, byddwn yn dechrau’r broses o gael gwared ar rwystrau mynediad eleni, er mwyn sicrhau bod yr arfordir yn agored ac ar gael i bawb.Flintshire Coast Path.jpg

Meddai Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Chris Dolphin:  “Dyma gam gwych ymlaen o ran cynwysoldeb. Mae aber Afon Dyfrdwy yn ased naturiol gwych ar gyfer ein cymunedau yn Sir y Fflint ac rwy’n falch iawn ar ôl misoedd o waith a chynllunio, ein bod bellach yn gallu gwneud y penderfyniad hwn i sicrhau y gall pawb ei fwynhau.

Bydd gwaith i gael gwared ar y rhwystrau yn dechrau yn Saltney cyn y Nadolig, ac yna’n symud yn syth i ardal Cei Connah. Bydd y gwaith o gael gwared ar y rhwystrau ar hyd yr aber cyfan yn cael ei wneud fesul cam, fel y cytunwyd â’r Heddlu, a bydd yn cyd-fynd â phrosiect Parc Arfordir Sir y Fflint.

Ein gweledigaeth yw parc arfordir hygyrch sy’n dathlu amgylchedd naturiol a threftadaeth arfordir Cymru. Cyflawnir hyn drwy fuddsoddiad parhaus a thrwy weithio gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys arweinwyr cymunedol, busnesau a chyrff cyhoeddus sy’n rhannu’r weledigaeth ar gyfer parc arfordir.

Meddai Aelod Lleol Cei Connah, y Cynghorydd Debbie Owen: “Rwyf wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ystyried ac rwy’n falch iawn bod y canlyniad hwn, drwy’r gwaith o ddatblygu Parc Arfordir Sir y Fflint, wedi’i wireddu a bod y llwybr arfordir yn hygyrch i bawb yn Sir y Fflint ei fwynhau.”