Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Preswylwyr Lleol yn Arwain Ymdrech Lwyddiannus i Lanhau Stryd Gefn yng Nghei Connah
Published: 15/11/2024
Mae preswylwyr Cei Connah wedi dod ynghyd gan lwyddo i wella stryd gefn sydd wedi ei hesgeuluso yn eu cymuned. Dechreuodd y fenter pan gysylltodd grwp o breswylwyr â Chyngor Sir y Fflint i drafod pryderon yn ymwneud â blerwch y stryd gefn. Fe arweiniodd eu penderfyniad ar y cyd at y syniad o ffurfio grwp â chyfansoddiad gyda chynlluniau i ymgeisio am gyllid allanol i gynnal a gwella’r ardal.
Fe gymrodd y prosiect gam mawr ymlaen pan drefnodd Cadwch Gymru’n Daclus a Chadwch Sir y Fflint yn Daclus ddiwrnod glanhau cymunedol gyda chymorth gwirfoddolwyr lleol, gan gynnwys Casglwyr Sbwriel y Fflint, preswylwyr a’r cynghorydd sir lleol. Gan ddefnyddio Cronfa Ffyniant Gyffredin Cadwch Gymru'n Daclus, fe gafodd y tîm wared ar gyfanswm sylweddol o wastraff, a oedd yn gyfystyr â llenwi tair fan gyda chawell. Gyda’i gilydd fe aethant ati i weithio’n ddiwyd i glirio’r stryd gefn ac arweiniodd hyn at newid gweledol a oedd yn cael cryn effaith.
Dywedodd Wayne Jones, preswyliwr lleol a fu’n rhan o hyn: “Unwaith y daethom i gyd at ein gilydd, gan greu ein nod a’n hamcanion, fe wnaed y gwaith ei hun yn gyflym. Rydym yn y broses o orffen sefydlu’r grwp ac rydym wedi creu tudalen Facebook er mwyn helpu i gael cefnogaeth leol ac i greu momentwm. Ni fyddem wedi gallu cyflawni dim o hyn heb Cadwch Gymru’n Daclus a Chyngor Sir y Fflint.”
Gan nad yw’r rhan fwyaf o’r strydoedd cefn yn eiddo i Gyngor Sir y Fflint, mae pob prosiect yn amrywio yn seiliedig ar ddisgwyliadau ac ymrwymiad y preswylwyr. Mae Cadwch Gymru’n Daclus a Chyngor Sir y Fflint yn dal yn barod i arwain cymunedau drwy fentrau tebyg. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, ymdrechion hunan-blismona gan breswylwyr a rhoi gwybod i berchnogion newydd am ganllawiau’r ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant:
“Mae’n anhygoel beth all ddigwydd wrth i gymuned ddod ynghyd. Rydym yn dymuno’r gorau i breswylwyr sy’n ymwneud â’r prosiect hwn ac rydym yn gobeithio y bydd eraill yn ymuno â’u hymdrechion i gadw’r ardal yn lân a chroesawgar.”
Mae’r grwp wedi derbyn rhoddion gan aelodau o’r cyhoedd ac mae sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn cydweithio ar brosiect yn y dyfodol wedi cysylltu â’r grwp.
Os ydych chi’n credu y gallai eich stryd gefn elwa o ychydig o sylw a bod gennych chi gefnogaeth eich cymdogion, neu os ydych yn fusnes sy’n barod i gefnogi ymdrechion y grwp hwn neu grwp arall, cysylltwch â keepflintshiretidy@flintshire.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.