Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arweinydd y Cyngor yn cyhoeddi Cabinet ‘uchelgeisiol’ newydd
Published: 07/10/2024
Heddiw mae’r Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd newydd ei ethol ar Gyngor Sir y Fflint, wedi datgelu ei Gabinet newydd.
Bydd y tîm cryf o 10 cynghorydd yn gofalu am faes o'r Cyngor, pob un â chyfrifoldebau penodol.
Dyma ddywedodd y Cynghorydd Hughes: “Mae’n anrhydedd cael fy ethol yn Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a chadarnhau’r Cabinet newydd, uchelgeisiol. Gyda chefnogaeth y Grwp Annibynnol a’r Eryr, byddwn yn gweithio i lywio’r Cyngor hwn yn ystod cyfnod heriol.
“Rydym wedi ymrwymo i roi ein trigolion wrth wraidd popeth a wnawn i Sir y Fflint, ac rwyf am weld y Cyngor hwn yn sefyll yn gryf ac unedig. Fel pob Cyngor yng Nghymru, rydym yn wynebu pwysau cyllidebol sylweddol, ond credaf y bydd y Cabinet hwn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni lwyddo.”
Bydd y Cynghorydd Christine Jones yn parhau fel dirprwy arweinydd, gyda chyfrifoldebau am Wasanaethau Cymdeithasol a Lles. Bydd yn gwasanaethu ochr yn ochr â dirprwy arweinydd sydd newydd ei phenodi, y cynghorydd Annibynnol Helen Brown, a fydd yn gyfrifol am Dai a Chymunedau.
Bydd rolau’r Cynghorydd Chris Bithell, aelod cabinet dros Gynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, a’r Cynghorydd Paul Johnson, aelod cabinet Cyllid a Gwerth Cymdeithasol, yn aros yr un fath.
Dau gynghorydd arall sydd wedi cadw eu swyddi yw'r Cynghorydd Mared Eastwood dros Addysg, y Gymraeg a Diwylliant, a'r Cynghorydd Linda Thomas dros Wasanaethau Corfforaethol.
Y Cynghorydd Glyn Banks fydd yn cymryd y portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant, Cynghorydd Grwp yr Eryr, Chris Dolphin fydd yr arweinydd newydd ar gyfer yr Economi, yr Amgylchedd a’r Hinsawdd, ac mae’r cynghorydd Annibynnol Richard Jones ar fin cymryd portffolio newydd o’r enw Trawsnewid ac Asedau.
Dyma ddywedodd y Cynghorydd Arnold Woolley, Arweinydd Grwp yr Eryr: “Rwy’n canmol ymdrechion y Cynghorydd Hughes i gynnwys sbectrwm eang o Gynghorwyr yn ei Gabinet newydd. Mae ei awydd i roi anghenion poblogaeth Sir y Fflint yn gyntaf yn gymeradwy iawn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Helen Brown: “Rwy’n edrych ymlaen at weithio yn y Cabinet mewn cyfnod mor heriol, ac i fod yn ymroddedig i gyflawni’r gorau y gallwn i bobl Sir y Fflint.”
Swyddi yn y Cabinet
Arweinydd y Cyngor – y Cynghorydd Dave Hughes
Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles - y Cynghorydd Christine Jones
Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai a Chymunedau – y Cynghorydd Helen Brown
Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg a Diwylliant – y Cynghorydd Mared Eastwood
Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant – y Cynghorydd Glyn Banks
Aelod Cabinet Trawsnewid ac Asedau – y Cynghorydd Richard Jones
Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Hinsawdd – y Cynghorydd Chris Dolphin
Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol - y Cynghorydd Linda Thomas
Aelod Cabinet Cyllid a Gwerth Cymdeithasol – y Cynghorydd Paul Johnson
Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd - y Cynghorydd Chris Bithell