Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailagor y cyrtiau tennis newydd i’r cyhoedd fis nesaf

Published: 24/09/2024

Mae Cyngor Sir y Fflint yn hynod falch o fod wedi sicrhau cyllid i ailddatblygu pedwar cwrt tennis yn yr Wyddgrug. 

Gan weithio mewn partneriaeth ag Aura Cymru ac Ysgol Uwchradd Alun, mae’r cyrtiau tennis presennol ar gampws yr ysgol/ Canolfan Hamdden yr Wyddgrug wedi’u trawsnewid yn gyfleuster newydd, aml-ddefnydd.  

Mae’r gwaith yn cynnwys lle chwarae newydd, pedwar cwrt tennis gyda physt a rhwydi newydd, dau gwrt pêl-fasged ‘3 yn erbyn 3’ gyda physt, byrddau cefn a chylchau, un cwrt pêl-rwyd gyda physt newydd, ynghyd â ffens a goleuadau newydd. 14 Completed Courts.jpg

Mae wedi’i ariannu gan Brosiect Cydweithrediad Cyrtiau Chwaraeon Cymru sy’n ceisio cynyddu cyfranogiad ac ehangu mynediad trwy fuddsoddi mewn cyrtiau i adfywio a chreu gofod a rennir ar gyfer pêl-fasged, pêl-rwyd a thennis mewn lleoliadau cymunedol diogel a chynhwysol. 

Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg a Diwylliant: “Rydym yn falch iawn o weld y weledigaeth hon ag Aura ac Ysgol Uwchradd Alun yn cael ei gwireddu. 

“Diolch i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru, gallwn bellach ddefnyddio’r cyrtiau hyn unwaith eto, gan sicrhau bod y disgyblion ac aelodau’r cyhoedd yn mwynhau tennis, pêl-fasged a phêl-rwyd.” 

Cafodd y gwaith adeiladu ei wneud dros wyliau’r haf ac erbyn hyn, mae mwy na 2,000 o ddisgyblion yn mwynhau defnyddio’r cyrtiau newydd. Bydd y cyfleuster yn agor yn swyddogol i’r cyhoedd ddechrau mis Hydref.