Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Carfan Derfynol i ddechrau ar gyfer Gwasanaeth Cymorth Busnes Canol y Dref

Published: 12/09/2024

Mae’r tîm Adfywio yng Nghyngor Sir y Fflint wedi comisiynu Achub y Stryd Fawr i redeg gwasanaeth cymorth Busnes pwrpasol i fusnesau canol tref ym Mwcle, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton. 

Mae’r Prosiect Cymorth Busnes, sy’n rhan o Raglen Buddsoddi Canol Tref Sir y Fflint, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, wedi cwblhau dwy garfan o gymorth yng Nghanol ein Trefi bellach.  Mae’r prosiect ar fin dechrau’r drydedd garfan, a’r olaf. 

Trwy’r prosiect, mae Achub y Stryd Fawr eisoes wedi cefnogi mwy na 25 o fusnesau yn Sir y Fflint gyda’u hanghenion unigol. Mae’r gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu yn dibynnu ar ofynion unigol y busnesau. 

Gall hyn olygu unrhyw beth o gymorth marchnata, cynyddu nifer yr ymwelwyr â’u busnes neu gymorth mwy arbenigol sy’n mynd i’r afael â sut i ehangu i farchnadoedd newydd. Mae’r prosiect wedi’i groesawu’n fawr ac mae’r busnesau wedi sôn am gymorth defnyddiol a gwerthfawr, effaith gadarnhaol ar eu busnesau a mwy o hyder wrth ddelio â gwaith datblygu eu busnes.

Mae Achub y Stryd Fawr yn gwmni cenedlaethol ac mae wedi cefnogi mwy na 25,000 o fusnesau ar draws y DU hyd yma. Dywedodd cyfarwyddwr y cwmni, Alex Schlagman: “Mae strydoedd mawr o fudd i bawb. Po fwyaf ohonom sy’n ymuno, y cryfaf y byddwn ni. Trwy gynnig cymorth i fusnesau lleol trwy’r rhaglen hon, bydd busnesau yn Sir y Fflint mewn sefyllfa well i ailddychmygu ac adfywio canol trefi, creu mannau defnydd cymysg yr ydym ni’n falch o fyw, gweithio, siopa a chwarae ynddynt.”

Datblygwyd y prosiect dan Raglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint , Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a thrwy’r cyllid hwn, mae wedi gallu cynnig cymorth i fusnesau am ddim i’r rhai sy’n cymryd rhan. Carfan 3 yw’r cyfle olaf i fusnesau gael y cymorth hwn a nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar ôl.  Bydd digwyddiad gwybodaeth yn cael ei gynnal nos Lun 16 Medi, 5pm-6pm ym Mharc Mynydd-y-Fflint lle bydd rhagor o wybodaeth ar gael am y rhaglen a beth all ei olygu i’ch busnes chi. 

Mae croeso i bawb, felly dewch am drafodaeth anffurfiol am sut gall y prosiect hwn gefnogi datblygiad eich busnes yng nghanol y dref. Neu gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy anfon e-bost at regeneration@flintshire.gov.uk neu gallwch gofrestru eich diddordeb yma.