Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiectau gwyrdd yn Sir y Fflint yn dwyn ffrwyth

Published: 04/09/2024

 Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cwblhau sawl prosiect isadeiledd gwyrdd yn ei ganol trefi allweddol. 

Bydd y prosiectau hyn yn helpu i wella tirwedd ffisegol y trefi, yn ogystal â sicrhau manteision o ran bioamrywiaeth, lleihau carbon ac ansawdd aer i’r gymuned a’r amgylchedd yn ehangach. 

Mae isadeiledd gwyrdd yn rhwydwaith o fannau gwyrdd amlswyddogaethol a nodweddion gwyrdd eraill, trefol a gwledig, sy’n gallu cynnig manteision o ran yr amgylchedd ac ansawdd bywyd i gymunedau. Mae’n cynnwys parciau, mannau agored, meysydd chwarae, coetiroedd, coed strydoedd trefol, rhandiroedd, gerddi preifat, toeau a waliau gwyrdd, systemau draenio cynaliadwy a phriddoedd.

GI Projects 2.jpeg

Gellir cynnwys isadeiledd gwyrdd mewn cynlluniau ac adeiladau ar ôl eu creu neu eu hôl-osod mewn adeiladau ac isadeiledd presennol. Gall hynny’n syml olygu plannu coed unigol a/neu ardaloedd blodau gwyllt, neu osodiadau mwy arloesol gan gynnwys toeau a waliau gwyrdd. 

Hyd yma, mae'r rhan fwyaf o'r gwelliannau isadeiledd gwyrdd trefol yn Sir y Fflint wedi’u gwneud trwy blannu coed, safleoedd blodau gwyllt ac ardaloedd lle caiff y glaswellt ei dorri’n llai aml yn ein hystadau cyhoeddus. 

Yn dilyn cais llwyddiannus a derbyn cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio’n agos â chydweithwyr yn nhîm Bioamrywiaeth y Cyngor, i gynllunio a chyflawni prosiectau ar draws canol trefi yn Sir y Fflint.

Gan ategu gwaith presennol, mae’r cyllid hwn wedi sicrhau bod archwiliad isadeiledd gwyrdd wedi’i gwblhau ar gyfer trefi: Bwcle, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton. Diben pob un ohonynt yw asesu’r isadeiledd gwyrdd presennol ym mhob tref, nodi’r cyfleoedd a’r heriau o ran gwella mannau gwyrdd a llunio rhestr o ymyriadau posibl a allai wella’r trefi, sy’n cyd-fynd â rhaglenni gwaith presennol a rhai yn y dyfodol.

Drwy’r dogfennau hyn, bydd modd i brosiectau gael eu hystyried pan fydd cyllid ar gael yn y dyfodol, gyda chyfleoedd i gyflawni ac astudiaethau achos ategol. Ochr yn ochr â dyfarniad grant llwyddiannus Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU hefyd yn cefnogi’r gwaith o ymchwilio i ddichonoldeb mynd i’r afael â llifogydd dwr wyneb ym Mwcle, drwy fanteisio ar gyfleoedd gwyrdd, gan gynnwys cynwysyddion planhigion sy’n dal dwr a phyllau coed. 

Fel rhan o’r rhaglen waith ehangach sy’n cael ei goruchwylio gan dîm Adfywio’r Cyngor, llwyddwyd i wella eiddo a gwblhawyd yn ddiweddar gyda chyllid o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys prosiect “porth gwyrdd” ar gyfer tref Queensferry. O ganlyniad, roedd cyllid grant ar gael ar gyfer gosod 7 pwll coed yn Queensferry, yn ogystal ag eiddo rhif 85 ar Station Road. 

Yn gynharach yn y flwyddyn, gyda chyllid cyfun gan brosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a menter Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, rhoddwyd prosiect ar waith i osod sgriniau gwyrdd byw yn Ysgol Gynradd Croes Atti yn Shotton. Pwrpas y prosiect oedd ychwanegu gwerth o ran bioamrywiaeth, lliniaru llygredd aer a gwella mannau gwyrdd ar dir yr ysgol ac felly ardal Shotton yn ehangach. O ganlyniad i’r cyllid, gosodwyd 45 o gynwysyddion planhigion gyda sgriniau eiddew ar y safle, a arweiniodd at gryn frwdfrydedd yn yr ysgol ac ymhlith y plant, y rhieni a’r trigolion lleol.

Bydd gwaith monitro parhaus yn edrych ar effeithiau hirdymor y prosiect o ran gwella ansawdd aer. Mae sicrhau gwyrddni a bioamrywiaeth mewn amgylchedd ysgol yn fodd o’i ymgorffori mewn deilliannau dysgu a chyfleoedd i ymgysylltu â myfyrwyr ynghylch materion ehangach o ran bioamrywiaeth, yr amgylchedd, bywyd gwyllt a lleihau allyriadau. Bydd y gwaith parhaus o gynnal hyn ar y safle o fudd i’r myfyrwyr presennol, yn ogystal â’r rhai a fydd yn mynychu’r ysgol yn y dyfodol. 

Mae ystod o amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn nodi bod darparu isadeiledd gwyrdd yn allweddol i gefnogi gwaith cynllunio, newid hinsawdd, bioamrywiaeth ac adfywio. Ers sawl blwyddyn bellach, mae pwyslais cadarn wedi bod ar warchod a gwella ein hamgylcheddau naturiol, a chydnabod bod manteision cymdeithasol ac amgylcheddol cysylltiedig ynghlwm â gwneud hynny. Mae ffocws allweddol ar fabwysiadu dull rhagweithiol o ddarparu isadeiledd gwyrdd o gofio ei fod yn cyd-fynd yn agos â sicrhau cynnal a gwella bioamrywiaeth a gwytnwch ei ecosystemau.

Yn 2022, amlinellodd Llywodraeth Cymru ei chyfeiriad strategol a’i dull ar gyfer Creu Lleoedd a gofynnwyd i bob awdurdod lleol lunio ‘Cynlluniau Creu Lleoedd’ ar gyfer pennu sut y byddant yn nodi, cynllunio a chyflawni prosiectau Creu Lleoedd ym mhob un o’u trefi. Mae'r dull hwn yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau 'Canol Trefi yn Gyntaf' Llywodraeth Cymru,  a lansiwyd yn 2020 ac mae gwneud gwelliannau i'r isadeiledd gwyrdd yn agwedd allweddol ar y cynlluniau hyn, sy’n ceisio rhoi iechyd a bywiogrwydd canol trefi wrth galon eu polisïau a’u prosesau gwneud penderfyniadau, a  darparu gwasanaethau ar lefel weithredol.

Wrth weithio ar Gynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer y trefi, rhoddir ystyriaeth i isadeiledd gwyrdd presennol a phosibl, gan gynnwys ei fanteision posibl a sut y mae’n cyd-fynd ag anghenion y dref.  Mae’n amlwg bod ffocws ar yr agwedd hon o adfywio trefi Sir y Fflint, o ystyried bod prosiectau eisoes wedi’u cwblhau, ar y gweill neu ar y prif gamau cynllunio. Mae ymgysylltiad cyhoeddus diweddar wedi dangos ffocws ar fentrau gwyrdd, yr amgylchedd a lles drwy’r amgylchedd, fel prif ystyriaeth gan nifer o bobl. 

Meddai’r Cynghorydd David Healy: “Mae’r prosiectau hyn i adfywio agweddau amgylcheddol, gweledol a ffisegol ein trefi, yn ddull i’w groesawu er mwyn gwireddu newid o ran ein hymagwedd tuag at iechyd y cyhoedd, materion amgylcheddol a gwneud ein trefi’n fwy bywiog.” 

Ym mis Ebrill eleni, cafodd Cyngor Sir y Fflint ei anrhydeddu gyda statws gwobr Caru Gwenyn Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru am ei ymdrechion canmoladwy i gefnogi peillwyr. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffocws parhaus ar bwysigrwydd mannau gwyrdd Sir y Fflint, y gwaith o blannu blodau gwyllt a chynnal a chadw glaswelltiroedd a’r prif ffocws ar gyflawni prosiectau gwyrdd allweddol o fewn ac o amgylch trefi allweddol yn Sir y Fflint a’r ardal ehangach. 

Mae gwaith cydweithio allweddol ar draws timau yng Nghyngor Sir y Fflint yn sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflwyno a'u cynnal a bod cyfleoedd i wella prosiectau yn cael eu nodi a'u datblygu. 

Wrth i brosiectau fynd rhagddynt, rhennir mwy o wybodaeth, cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu a’r prif fanteision a rhoddir sylw teg i gefnogi’r gwaith o ddatblygu lleoliadau allweddol i breswylwyr ac ymwelwyr eu mwynhau.