Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ei gwneud yn haws i gael dweud eich dweud!

Published: 03/09/2024

 

Wedi ymrwymo i rymuso trigolion i ddweud eu dweud, mae Cyngor Sir y Fflint wedi lansio Canolbwynt Ymgynghori ac Ymgysylltu newydd ar-lein.

Pwrpas y Canolbwynt yw ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad at gyfleoedd i gymryd rhan a gweld sut mae eu cyfranogiad wedi gwneud gwahaniaeth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, y Cynghorydd Linda Thomas:

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i roi llais i bobl.  Bydd y canolbwynt newydd yn cyhoeddi’r pethau yr hoffem gael adborth arnynt. Pan fyddwn wedi ystyried yr holl wybodaeth a roddir i ni, byddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau fel y gall pobl weld sut y maent wedi helpu i lunio’r penderfyniadau a wnawn. 

“Mae’r Canolbwynt yn darparu un pwynt mynediad ar-lein i bobl gymryd rhan ar amser ac mewn lleoliad sydd fwyaf addas iddyn nhw. 

“Byddwn yn parhau i roi cyhoeddusrwydd eang i’r pethau yr hoffem gael adborth arnynt, gan ddarparu cyfleoedd i bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad at wybodaeth ar-lein.”

Mae’r Canolbwynt Ymgynghori ac Ymgysylltu ar gael ar wefan y Cyngor.