Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect siambrau claddu ar waith ym Mynwent Bwcle

Published: 21/08/2024

Mae gwaith wedi dechrau ar osod siambrau claddu concrid mewn mynwent yn Sir y Fflint i gynyddu capasiti at y dyfodol.

Petai’r fynwent yn parhau i gael ei defnyddio fel y mae ar hyn o bryd, fe fyddai Mynwent Bwcle yn llawn o fewn tua tair blynedd.

Er mwyn i’r afael â hyn, mae Cyngor Sir y Fflint yn dechrau ar brosiect uchelgeisiol a fydd yn ymestyn capasiti’r fynwent yn Elfed Drive am tua 15 mlynedd.

Mae eiddo preswyl yn amgylchynu’r fynwent bresennol gan olygu nad oes modd ei hymestyn.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae’r Cyngor yn gosod siambrau claddu concrid dan ddaear mewn ardal o dir isel nad oedd modd ei ddefnyddio’n flaenorol gan ei fod yn llawn dwr yn ystod misoedd y gaeaf. Yn rhan o’r gwaith, bydd lefel y tir yn cael ei godi i fod yr un lefel â gweddill y fynwent.

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth: “Ers blynyddoedd mae’r ardal yma wedi bod yn rhy wlyb i’w ddefnyddio ar gyfer claddedigaethau, serch hynny, bydd y prosiect hwn yn darparu mannau claddu gwerthfawr ym Mwcle.

“Mae’r prosiect hefyd yn cynnig arbedion ariannol sylweddol o’i gymharu â’r gost o orfod creu mynwent newydd yn ardal Bwcle petaem ni wedi gallu dewis tir addas. 

“Pan fyddwn ni wedi gorffen y prosiect, rhagwelir y bydd unrhyw rannau y mae’n rhaid i ni eu hadfer yn cael eu gwneud er mwyn cynnig manteision amgylcheddol drwy ddefnyddio hadau blodau gwyllt neu ddolydd lle y bo’n bosibl, o’i gymharu ag ail-hau gyda gwair safonol.”

Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn canol mis Medi.

I gael rhagor o wybodaeth am ein mynwentydd, cliciwch yma.