Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith rhoi wyneb newydd ar ffordd gerbydau yn Sir y Fflint

Published: 02/08/2024

Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer rhaglen o waith i roi wyneb newydd ar ffordd gerbydau mewn nifer o safleoedd ar draws y sir.

Mae’r rhaglen yn mynd rhagddi ac mae ffordd ddynesu/ymadael yr A549 o gylchfan Dobshill eisoes wedi’i chwblhau.

Dros y mis nesaf, caiff wyneb newydd ei roi ar saith ffordd arall.

Foxes Lane a Manor Road, Sealand

Dechreuodd gwaith ddydd Llun, 29 Gorffennaf am bythefnos. Fe fydd y ffordd wedi’i chau rhwng 08:00 a 18:00.

B5121 Brynffordd (O Drosbont yr A55 i Eglwys Sant Mihangel)

Bydd gwaith yn dechrau ddydd Iau 1 Awst am bythefnos. Fe fydd y ffordd wedi’i chau rhwng 08:00 a 18:00.

Upper Aston Hall Lane, Penarlâg (O Bennetts Lane i The Ridgeway)

Bydd gwaith yn dechrau ddydd Llun, 5 Awst am wythnos. Fe fydd y ffordd wedi’i chau rhwng 08:00 a 18:00.

Wepre Lane, Cei Connah (O Ffordd Newydd i’r Wepre Bar And Grill)

Bydd gwaith yn dechrau ddydd Mawrth, 6 Awst am bythefnos. Fe fydd y ffordd wedi’i chau rhwng 08:00 a 18:00.

A541 Maes Mynan, Afonwen at ffin y sir

Bydd gwaith yn dechrau ddydd Gwener, 9 Awst am wythnos. Fe fydd y ffordd wedi’i chau rhwng 08:00 a 18:00.

A5119 Heol y Brenin, Yr Wyddgrug (O Gylchfan Aldi i Raikes Lane)

Bydd gwaith yn dechrau ddydd Llun, 12 Awst am wythnos. Fe fydd y ffordd wedi’i chau rhwng 08:00 a 18:00.

A548 Y Fflint – i’r Dwyrain (o Ystâd Ddiwydiannol Manor i Gyffordd Ffordd Aber)

Bydd gwaith yn dechrau ddydd Sadwrn, 17 Awst am wythnos. Fe fydd y ffordd wedi’i chau rhwng 19:00 a 06:00 (gweithio yn ystod y nos).

Er mwyn hwyluso’r gwaith, bydd ffyrdd ar gau a bydd llwybrau gwyro gydag arwyddion ar waith er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a defnyddwyr eraill y briffordd.

Bydd y contractwr yn gwneud pob ymdrech i gadw at y dyddiau a’r amser a roddwyd, ond mae’n bosibl y bydd angen amrywio’r rhain os yw’r tywydd yn wael neu os yw’r amgylchiadau yn anffafriol.

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Mae Cyngor Sir y Fflint a’n contractwr a benodwyd, Tarmac Trading Ltd, yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw oedi a tharfu y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi.