Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cabinet yn cytuno i gasgliadau bin bob tair wythnos

Published: 23/07/2024

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno symud i gasgliadau bin bob tair wythnos er mwyn roi hwb i gyfraddau ailgylchu’r sir.

Roedd swyddogion wedi argymell gweithredu casgliad bin bob pedair wythnos dros wythnos waith o bum niwrnod ond mae aelodau’r Cabinet wedi cytuno cyfaddawdu a chyflwyno casgliadau bob tair wythnos.

O 2024/25 mae targed statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfanswm o wastraff y bwriedir ei ailddefnyddio, ailgylchu a’i gompostio wedi cynyddu i 70% (arfer bod yn 64%).

I helpu cyflawni’r targed uchelgeisiol hwn yn lleol mae’r Cyngor wedi ymgynghori gyda’r cyhoedd ar Strategaeth Adnoddau a Gwastraff newydd ddechrau 2024, gyda 40% o bobl un ai’n cytuno neu’n cytuno’n gryf i fodel cymhwysedd gwastraff gweddilliol cyfyngedig.

Er ei fod yn cael ei gydnabod bod llawer o breswylwyr yn ailgylchu cymaint ag y gallan nhw sy’n ein helpu i gyflawni oddeutu 62% o wastraff wedi’i ailgylchu, mae dadansoddiad cyfansoddiadol diweddar yn dangos fod posib ailgylchu tua 58% o’r gwastraff sydd yn y biniau du. Mae preswylwyr eisoes gyda’r adnoddau sydd eu hangen (casgliadau ailgylchu wythnosol a chasgliadau gwastraff bwyd wythnosol ar ymyl y palmant a phum canolfan ailgylchu gwastraff cartref) i reoli gwastraff a gwastraff y gellir ei ailgylchu gymaint ag y gallan nhw i olygu mwy o le yn y biniau du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. 

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant: “Ar ôl gwrando ar adborth gan ein cymunedau mae Cabinet wedi penderfynu mai’r opsiwn gorau wrth symud ymlaen yw cyflwyno casgliad bin bob tair wythnos.  Bydd hynny’n ein galluogi ni i symud yn nes at darged ailgylchu 70% Llywodraeth Cymru a pharhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i breswylwyr.

“Mae cartrefi gyda’r holl offer i wneud gwahaniaeth mawr pan ddaw hi i ailgylchu, ac mae llawer o breswylwyr yn gwneud pob dim y gallan nhw.  Dylai’r cyfnod pontio i fodel casglu gwastraff newydd gael cyn lleied o effaith â phosib ar breswylwyr os ydyn nhw’n gwneud y mwyaf o’u gwasanaethau casglu gwastraff ailgylchu a gwastraff bwyd a ddarperir yn barod.

Ychwanegodd Katie Wilby, Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant: “Er mai Cymru yw’r ail yn y byd pan ddaw hi i ailgylchu, mae Sir y Fflint wedi methu â chyflawni’r targedau statudol gan Lywodraeth Cymru dros y pedair blynedd diwethaf.   Mae felly yn hynod bwysig bod Sir y Fflint yn gwella ei berfformiad i gyflawni’r targedau ac i osgoi dirwyon sylweddol gan Lywodraeth Cymru.”