Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Busnes o Queensferry yn cael grant trawsnewid

Published: 19/07/2024

Mae busnes yn Queensferry wedi cael ei drawsnewid diolch i bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth y DU.

Ers mis Medi 2023, mae tîm adfywio’r Cyngor wedi dosbarthu grantiau i fusnesau cymwys ar ôl cael dyfarniad o £400,000 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Estynnwyd gwahoddiad i fusnesau cymwys i wneud cais am grantiau o hyd at £50,000 i dalu am hyd at 70% o waith gwelliannau i eiddo.QF Sport BEFORE.jpg

Cafodd Queensferry Sports ar Station Road ei drawsnewid diolch i grant.

Amlygodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, bwysigrwydd buddsoddi yn eiddo canol trefi Sir y Fflint.

Dywedodd: “Mae’n hollbwysig ein bod yn cefnogi busnesau lleol, yn benodol y rhai sy’n ceisio gwarchod dyfodol eiddo canol trefi a busnesau, fel hwn yn Queensferry. Mae angen i ni adfywio economïau cynaliadwy canol trefi yn Sir y Fflint ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Ers 1905 mae Queensferry Sports wedi bod yn eiddo teuluol, ac wedi gweithredu o 18 Station Road ers 50 mlynedd. Fel busnes teuluol, maent yn ymgeisio i gadw siop gorfforol a all wasanaethu’r gymuned leol, mewn byd o fanwerthu ar-lein.

Serch hynny, mae’r adeilad wedi dirywio dros y blynyddoedd, ac mae angen gwneud gwaith adfer ac ailwampio arno i’w ddod i safonau manwerthu modern. Roedd y gwaith ailwampio a gefnogwyd gan y grant, ac a gwblhawyd gan weithwyr lleol, yn cynnwys atgyweirio a disodli’r estyll a’r teils ar y to, gosod goleuadau mwy effeithlon, a phaentio blaen y siop.QF Sport AFTER.jpg

Y gwelliant mwyaf gweledol i’r adeilad yw arwyddion newydd ar flaen y siop. Lle’r oedd yr hen arwydd wedi pydru a disgyn, mae gan y siop du blaen mwy modern a chadarn.

Meddai perchennog yr adeilad a Queensferry Sports, Gary Owen: “Mae’r grant gwella wedi hwyluso’r gwaith atgyweirio ac ailwampio i du blaen y siop, yn ogystal â moderneiddio’r tu mewn. Yn weledol, rydym yn falch iawn o du mewn a thu allan y siop. Rydym wedi derbyn gymaint o ganmol. Mae ein siop yn dathlu 50 mlynedd o fasnach, a bydd hyn yn ein paratoi at y 100 mlynedd.”

Bydd cyfleoedd am gyllid tebyg ar gael ar gyfer 2024-2025. I gael rhagor o wybodaeth am y Grantiau gwella Eiddo Canol Tref, anfonwch neges i regeneration@flintshire.gov.uk