Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith Adeiladu yn mynd rhagddo ar ysgol newydd yn Sir y Fflint

Published: 17/07/2024

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar gyfnod adeiladu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd, cyntaf erioed Sir y Fflint.

Mae’r prosiect uchelgeisiol £15.9 miliwn, gyda chefnogaeth gwerth £11.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yn gweld trosglwyddo Ysgol Gymraeg Croes Atti yn y Fflint i safle newydd, llai na milltir i ffwrdd o’i lleoliad presennol.

Bydd y campws yn cynnwys ysgol newydd gyda lle i hyd at 240 disgybl llawn amser a chyfleuster pwrpasol ar wahân ar gyfer gofal plant y blynyddoedd cynnar, digwyddiadau cymunedol a rhaglen drochi.

Yn ddiweddar, ymunodd disgyblion, y Pennaeth, Gwyn Jones, a chynrychiolwyr o gontractwyr Read Construction â Phrif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Mared Eastwood i nodi dechrau swyddogol y gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Eastwood: “Ryw’n falch iawn fod Sir y Fflint yn buddsoddi yn ei hysgol gynradd newydd cyntaf erioed. Mae’r safle’n cynrychioli ymrwymiad y Cyngor o ran hyrwyddo’r Gymraeg, gyda rhagor o leoedd cyfrwng Cymraeg yn cael eu cynnig ynghyd â chyfleusterau ychwanegol megis gofal plant a darpariaeth drochi wedi’u lleoli ar y safle.

“Rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar y prosiect gwych hwn, ac yn gwerthfawrogi gwaith caled Read Construction a fydd yn cyflawni ysgol a fydd yn ysbrydoli ac yn helpu plant i ffynnu.”

Ynghyd â hyrwyddo’r Gymraeg, bydd cwblhau’r prosiect yn darparu’r ail ysgol gynradd carbon sero net yn Sir y Fflint.

Meddai Alex Read, Cyfarwyddwr Read Construction: “Fel cwmni sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, mae Read yn falch o weithio gyda Chyngor Sir y Fflint ar y cynllun carbon sero net newydd hwn, gyda gwaith nawr yn mynd rhagddo i ddarparu amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf i’r gymuned leol.

“Mae Read wedi ymrwymo i gyflawni rhagoriaeth o ran carbon isel a gwerth cymdeithasol, gan gefnogi’r dref leol a’i chymunedau cyfagos drwy ail-fuddsoddi'r bunt leol a chynnig cyfleoedd gwaith. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n cleient a’r gadwyn gyflenwi i gyflawni’r cynllun hwn.” 

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:  “Rwy’n falch fod y gwaith adeiladu wedi cychwyn ar yr ysgol gynradd newydd hon, diolch i’r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, ac mae cynyddu mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn hollbwysig wrth gefnogi a hyrwyddo ei thwf.

“Bydd yr ysgol hon yn darparu amgylchedd dysgu gwell i blant a phobl ifanc ac yn rhoi cyfle i ragor o ddysgwyr ddod yn siaradwyr Cymraeg. Mae’r cyfleusterau hyn yn gam gwych tuag at dyfu ein hiaith, yn ogystal â chynnig buddion i’r gymuned ehangach.”

Am ragor o fanylion ar Raglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor, cliciwch yma.