Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Teuluoedd cymwys i dderbyn taliad Prydau Ysgol am Ddim dros yr haf

Published: 17/07/2024

Bydd miloedd o deuluoedd Sir y Fflint yn derbyn cymorth ariannol tuag at eu biliau bwyd dros wyliau’r haf. 

Mae gan blant sy’n gymwys i brydau ysgol am ddim yn ystod y tymor hawl i £50 fesul plentyn cymwys mewn ymdrech gan Gyngor Sir y Fflint i leddfu tlodi bwyd yn ystod gwyliau’r ysgol.

Roedd y Cyngor wedi camu i mewn a chytuno i ddarparu’r cymorth ariannol ar ôl i gynllun Llywodraeth Cymru i ddarparu taliad uniongyrchol, talebau neu fwyd i deuluoedd sy’n wynebu anawsterau ariannol yn ystod gwyliau’r ysgol ddod i ben ym mis Mehefin 2023. 

Bydd hyd at oddeutu 5,000 o ddisgyblion yn cael budd o’r taliad a delir i rieni/gofalwyr mewn dau randaliad.  Bydd y taliad cyntaf sy’n £25 yn cael ei brosesu’r wythnos yn dechrau 22 Gorffennaf a’r ail £25 yn cael ei dalu’r wythnos yn dechrau 12 Awst. 

Nid oes angen i rieni/gofalwyr wneud cais am y taliad hwn. Gwneir y taliad yn awtomatig, yn uniongyrchol i gyfrifon banc rhieni/gofalwyr holl blant sydd un ai’n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim neu sy’n cael prydau ysgol am ddim o dan ddiogelwch trosiannol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Mared Eastwood: “Fel Cyngor rydym yn ymwybodol o faich cynyddol costau byw ar ein cymunedau ac rydym yn dymuno helpu i ryddhau rhywfaint o’r straen ar gyllidebau aelwydydd.  

“Ar ôl i gynllun Llywodraeth Cymru ddod i ben, camodd y Cyngor i mewn i ddarparu’r tâl hwn ar adeg pan mae’r gyllideb eisoes yn dynn.  Rydym wedi ymrwymo i lobio Llywodraeth Cymru i gefnogi’r teuluoedd sydd ei angen fwyaf.”