Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi dyddiadau ar gyfer digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus canol trefi

Published: 05/07/2024

Mae Cyngor Sir y Fflint ar fin cynnal cyfres o sesiynau ymgynghori cyhoeddus, ble mae pobl leol yn cael eu hannog i helpu i siapio dyfodol pedwar canol tref ar draws Sir y Fflint: Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry.

Mae’r gweithgaredd ymgynghori yn rhan o’r broses i ddatblygu saith ‘Cynllun Creu Lleoedd’ ar gyfer canol trefi ar draws Sir y Fflint yn y ddwy flynedd nesaf.

Bydd Cynllun Creu Lleoedd yn gosod gweledigaeth ar gyfer dyfodol pob tref, amlinellu gweithredoedd a fyddai’n helpu i wella bywiogrwydd ac atyniad y lle a bodloni anghenion y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r trefi a chanfod cyfleoedd i amrywiaeth o fudd-ddeiliaid i weithio’n fwy cydweithredol i gyflawni gwelliannau. 

Mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Gyngor Sir y Fflint mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol ar draws Cymru sefydlu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer eu trefi. Mae’r angen i sefydlu cynlluniau wedi dod yn amod er mwyn cael buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi: “Yn debyg i nifer o drefi ar draws y wlad, mae strydoedd mawr Sir y Fflint wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil newidiadau i arferion siopa a’r pandemig byd-eang. 

“Mae hi nawr yn gyfle priodol i adolygu sut y gellir adfywio ein canol trefi, ac adnabod sut y gall pobl leol, a’n heconomi leol elwa o newid cadarnhaol a buddsoddiad yn y dyfodol.”

Bydd pobl leol sy’n byw neu weithio yn neu ger Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein am eu canol trefi yn gynharach eleni. Ar ôl i’r arolygon ar-lein gau, ac wedi cael dros 3500 o ymatebion gan aelodau o’r cyhoedd, bydd cyfres o sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ym mhob tref. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal:

Y Fflint

11 Gorffennaf: Llyfrgell y Fflint, 3.30pm – 5.30pm

13 Gorffennaf: Llyfrgell y Fflint, 9.30am – 11.30am


Queensferry

18 Gorffennaf: Ty Calon 3.30pm – 5.30pm

20 Gorffennaf: Ystafell Aura, Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, 9.30am – 11.30am

 

Cei Connah

12 Medi: Neuadd Ddinesig Cei Connah, 3.30pm – 5.30pm

14 Medi: Llyfrgell Cei Connah, 9.30am – 11.30am

 

Yr Wyddgrug

19 Medi: Llyfrgell yr Wyddgrug, 3.30pm – 5.30pm

21 Medi: Llyfrgell yr Wyddgrug, 9.30am – 11.30am