Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn cyhoeddi dyddiadau newydd ar gyfer gweithdai cefnogaeth i fusnes ar-lein

Published: 05/07/2024

Bydd Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth â Save the High Street, yn cynnal cyfres o weithdai ar-lein i helpu busnesau’r stryd fawr gyda gwelliannau ar-lein a digidol.

Mae’r Cyngor wedi ymuno â Save the High Street i helpu busnesau canol trefi ledled Sir y Fflint i gyflawni eu hamcanion pwysicaf.

Bydd pob sesiwn ryngweithiol awr o hyd yn cael ei chynnal gan arbenigwr ar y pwnc a bydd yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol a thrafodaethau rhwng cymheiriaid.  Bydd y pynciau’n cynnwys: 

  • Hybu eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol Dydd Llun 8 Gorffennaf 2024 5:00pm – 6:00pm
  • Gwneud y gorau o’ch gwefan Dydd Iau 18 Gorffennaf 2024 5:00pm – 6:00pm
  • Denu ymwelwyr drwy sianeli ar-lein dydd Mercher 24 Gorffennaf 2024 5:00pm – 6:00pm 

Bydd y sesiynau yn edrych ar sut y dylai busnesau annibynnol y stryd fawr fod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, beth ddylai gwefan ei chynnwys a pham, profiad arbenigol i arwain y trafodaethau a chyfleoedd rhwng cymheiriaid i rannu enghreifftiau o lwyddiannau a chyfleoedd. 

Mae pob busnes cyfredol a newydd yng nghanol trefi Sir y Fflint yn gymwys ar gyfer y rhaglen cymorth busnes hon.

Mae SaveTheHighStreet.org yn fudiad diwydiant sydd wedi’i sefydlu ers 6 mlynedd.  Mae’r tîm yn cyflwyno rhaglenni cymorth i roi hwb i economïau lleol o’r gwaelod i fyny drwy rymuso entrepreneuriaid y stryd fawr â’r wybodaeth, yr adnoddau, y sgiliau a’r gallu i gyflawni eu potensial. Mae’r tîm yn arbenigwyr yn y maes ac yn angerddol dros gefnogi busnesau lleol i ddatblygu, tyfu a ffynnu yn yr hinsawdd economaidd heriol presennol. 

Mae’r prosiect yn rhan o raglen ehangach sef Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint sy’n edrych ar weithio mewn canol trefi er budd y gymuned mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys grantiau gwella eiddo, buddsoddiad mewn mannau gwyrdd, grantiau gweithgaredd a digwyddiadau a chefnogaeth i fusnesau. 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu’r digwyddiadau gallwch weld sut i gofrestru eich diddordeb yma: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Business/Regeneration/Business-Engagement.aspx 

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â flintshire@savethehighstreet.org neu regeneration@flintshire.gov.uk