Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
A550 (Tinkersdale) - ar gau rhwng ei chyffyrdd gyda Chylchfan Dobshill a Glynne Way
Published: 04/07/2024
Oherwydd cyflwr y ffordd ac, er diogelwch y cyhoedd, mae’r A550 (Tinkersdale) ar gau rhwng ei chyffyrdd â Chylchfan Dobshill a Glynne Way. Mae cyflwr y ffordd wedi dirywio’n sylweddol rhwng archwiliadau diogelwch a drefnwyd ac fe’i hystyrir yn anniogel i holl ddefnyddwyr ffordd.
Yn anffodus, cafwyd llawer iawn o law ledled y sir yn ystod gaeaf a gwanwyn 2024, ac mae’r rhan hon o’r ffordd wedi ei gorchuddio â llawer iawn o ddeiliach, sy’n atal y ffordd rhag sychu. O ganlyniad, mae’r amodau llaith wedi cyflymu dirywiad y ffordd, sydd bellach angen mwy na dim ond llenwi tyllau, mae angen ail-wynebu’r ffordd gyfan. Yn hanesyddol, bu rhywfaint o ymsuddiant ar y ffordd yn Tinkersdale ac mae tystiolaeth fod yr is-strwythur yn parhau i symud yn araf. Bydd y symudiad hwn, gydag amodau gwlyb parhaus, a diffyg goleuni’r haul wedi cyfrannu at ddirywiad sydyn yn strwythur y ffordd.
Mae swyddogion y Cyngor wedi asesu’r ffordd ac wedi trafod gyda chontractwyr i baratoi rhaglen waith, a fydd yn dechrau o ddydd Iau 4 Gorffennaf. Mae hyn yn cynnwys ail-wynebu’r ffordd yn y rhannau gwaethaf a gwneud gwaith cynnal a chadw ychwanegol ar hyd y rhan hon tra bod y ffordd ar gau. Disgwylir y bydd y gwaith wedi gorffen o fewn y tair wythnos nesaf.
Mae traffig a effeithir yn cael eu hatgyfeirio ar hyd yr A550(T), A5104 (Brychdyn), a’r B5125. Hysbyswyd budd-ddeiliaid allweddol, megis y gwasanaethau brys a gweithredwyr cludiant, ynghyd â thimau mewnol megis y timau casglu gwastraff/ailgylchu, a byddwn yn parhau i drafod gyda’r budd-ddeiliaid hyn i sicrhau na fydd y gwaith hanfodol hwn yn effeithio gormod ar eu gwaith.
Mae mwy o wybodaeth am y gwaith hwn a’r holl waith ffordd arall sy’n digwydd ar draws Sir y Fflint, ar gael ar https://one.network
Hoffai Cyngor Sir y Fflint ddiolch i drigolion a busnesau yn yr ardal am eu hamynedd a’u dealltwriaeth, ac ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achoswyd yn ystod y gwaith hanfodol hwn.