Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dyddiad cau i wneud cais am brawf adnabod pleidleisiwr am ddim cyn yr etholiad cyffredinol yn agosáu

Published: 21/06/2024

Dim ond ychydig o amser sydd ar ôl i wneud cais am brawf adnabod pleidleisiwr am ddim cyn yr etholiad cyffredinol.  Y dyddiad cau yw 5pm ddydd Mercher, 26 Mehefin.

Am y tro cyntaf mewn etholiad cyffredinol, bydd angen i bleidleiswyr ddangos prawf adnabod â llun i dderbyn eu papurau pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Os nad oes gennych brawf adnabod derbyniol, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod i Bleidleisio yma.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru i bleidleisio a bydd angen iddynt ddarparu eu dyddiad geni, eu rhif Yswiriant Gwladol a llun ohonynt.

Nid oes angen i’r rheiny sydd eisoes â phrawf adnabod derbyniol wneud cais.  Mae’r mathau o brawf adnabod a dderbynnir yn cynnwys pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Gymanwlad; trwydded yrru’r DU neu’r AEE; a rhai cardiau teithio rhatach, fel cerdyn bws unigolyn hyn neu gerdyn Oyster 60+.  Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio mathau o brawf adnabod sydd wedi dod i ben os yw’n dal yn bosibl eu hadnabod o’r llun.

Cynhelir yr etholiad cyffredinol ddydd Iau 4 Gorffennaf.

Dywedodd y Swyddog Canlyniadau, Neal Cockerton:  “Wrth i’r dyddiau cau i wneud cais am brawf adnabod am ddim agosáu, mae’n bwysig bod trigolion Sir y Fflint yn gwneud yn siwr eu bod yn barod ar gyfer yr etholiad.  Os oes angen cymorth arnoch i wneud cais am Brawf Adnabod Pleidleisiwr am ddim, gallwch fynd i un o’n swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu.”

Mae gan bleidleiswyr hefyd y dewis i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy.  Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais trwy’r post yw 5pm ddydd Mercher, 19 Mehefin, ac ar gyfer pleidlais trwy ddirprwy y dyddiad cau yw 5pm ddydd Mercher, 26 Mehefin.