Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwanwyn Glân yr Wyddgrug yn llwyddiant ysgubol

Published: 13/06/2024

Daeth mwy na 60 o wirfoddolwyr ynghyd i gasglu sbwriel a gwastraff ym mharciau, mannau agored a strydoedd yr Wyddgrug. 

Trefnwyd Gwanwyn Glân yr Wyddgrug, a gynhaliwyd fis Mai eleni am y tro cyntaf ers dwy flynedd, gan dîm Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir y Fflint, Lleihau Plastig yr Wyddgrug, Cadwch Gymru’n Daclus a Chyngor Tref yr Wyddgrug. 

Casglwyd 101 o fagiau llawn sbwriel, ac roedd modd ailgylchu dros chwarter ohono (27%). 

Meddai Stephen Maund o Lleihau Plastig yr Wyddgrug: “Dyma’r tro cyntaf i brosiect Gwanwyn Glân yr Wyddgrug fesur faint o bethau ailgylchadwy a gasglwyd ym mannau agored a strydoedd yr Wyddgrug. 

“Roedd swm yr eitemau ailgylchadwy yn llai na’r disgwyl oherwydd math y gwastraff cyffredinol a gasglwyd, yn cynnwys gwastraff gwyrdd a gwastraff wedi’i dipio’n anghyfreithlon. Ond mi fydd hyn yn rhoi meincnod i ni fesur y cynnydd o flwyddyn i flwyddyn.” 

Arweiniodd staff Cyngor Sir y Fflint y dasg o wahanu’r sbwriel ailgylchadwy a’r sbwriel nad oedd modd ei ailgylchu, gyda thîm Cadwch Gymru'n Daclus yn golchi popeth a ellir ei ailgylchu wedyn. 

Meddai Carolyn Prew o Cadwch Gymru’n Daclus: : “Mae’n rhaid i eitemau ailgylchadwy fod yn lân er mwyn eu hailgylchu. Roedd golchi’r caniau a’r poteli plastig a gwydr a gasglwyd yn atal nifer fawr o eitemau rhag cael eu rhoi efo’r gwastraff cyffredinol. Roedd y bobl a oedd yn gwylio’r broses, y tu allan i Ganolfan Daniel Owen, wedi rhyfeddu gweld cymaint o bethau yn cael eu hachub.” 

Yn defnyddio offer arbenigol, cafodd rhai o’r eitemau plastig eu hail-fowldio yn botiau blodau ac yn eitemau eraill gan elusen leol ReSource. 

Meddai Dan Jones o ReSource: “Roedd y siopwyr a’r gwirfoddolwyr wrth eu boddau yn cael cyfle i gymryd rhan a throi’r eitemau plastig yn bethau defnyddiol, gan eu rhwygo a’u mowldio i greu siapiau diddorol a photiau blodau a thorchau allweddi lliwgar.”

Daeth Springy y masgot am dro i weld preswylwyr stad Bryn Gwalia, gan ymuno â’i ffrindiau o Glwb Pêl-droed Alexandra yr Wyddgrug, Maer yr Wyddgrug a chynghorydd lleol i glirio’r ardal tu allan i siopau Elm Drive. 

Syniadau ar gyfer lleihau sbwriel yn eich cymuned

• Defnyddiwch boteli a chynwysyddion golchadwy 

• Peidiwch â thaflu sbwriel, gall sbwriel niweidio’r amgylchedd ac unwaith y mae wedi’i halogi does dim modd ei ailgylchu 

• Ewch â’ch sbwriel ailgylchadwy adref efo chi a’i roi yn eich bin ailgylchu