Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ceidwad Arfordir Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth i wella twyni tywod Talacre ar gyfer un o ymlusgiaid mwyaf prin y DU.

Published: 07/06/2024

Mae Ceidwad Arfordir Sir y Fflint wedi bod yn cydweithio’n ddiweddar â nifer o sefydliadau partner, gan gynnwys perchnogion tir a myfyrwyr ar leoliad o Brifysgol Caer, Coleg Llysfasi a Choleg Cambria, i helpu gwella cynefin madfall y tywod.   

Mae’r gwaith gwerthfawr hwn wedi bod yn gwella’r twyni tywod yn Nhalacre ar gyfer Madfall y Tywod, sef un o ymlusgiaid mwyaf prin y DU.  Mae Madfall y Tywod, a oedd wedi diflannu o Gymru ar un adeg, yn gwneud ei gartref yn nhwyni tywod Talacre yn dilyn rhaglen lwyddiannus i ailgyflwyno’r rhywogaeth. 

Mae gwaith i wella cynefin Madfall y Tywod wedi cynnwys ‘cloddio clytiau tywod’, sef proses lle mae clytiau o lystyfiant yn cael eu clirio oddi ar y twyni gyda rhaw neu gloddiwr bach, i greu mannau o dywod noeth.    Mae’r cloddiwr yn creu clytiau newydd ac mae pobl yn mynd ati i greu hyd yn oed mwy o glytiau mewn mannau na all y cloddiwr eu cyrraedd. Bu’r myfyrwyr yn helpu chwynnu rhywfaint o glytiau tywod y llynedd i greu’r cynefin gorau posib i’r ymlusgiaid yma.

Mae madfallod yn elwa ar gymysgedd o dywod noeth a chysgod, felly mae’r gwaith yma’n cadw’r safle mewn cyflwr ffafriol iddyn nhw.  Mae’r clytiau sy’n cael eu creu ar gyfer y madfallod yn mesur metr o led wrth tua dau fetr o hyd er mwyn creu digon o ymylon, y mae’r madfallod yn eu defnyddio i dorheulo. Maen nhw’n mynd i’r tywod agored i gynhesu eu cyrff yn yr haul ond yn aros yn agos at yr ymylon er mwyn gallu symud yn gyflym yn ôl dan gysgod i’w hamddiffyn eu hunain. 

Meddai Neil Ankers - Rheolwr Cyffredinol Cyrchfan Traeth Presthaven: “Mae Cyrchfan Traeth Presthaven hefyd yn cyflogi Ceidwad y Twyni, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Chyfoeth Naturiol Cymru i reoli’r system Twyni Tywod, gan gynnwys gwarchod a diogelu rhywogaethau prin fel Madfall y Tywod a’r Llyffant Cefnfelyn. Mae hyn yn bwysig iawn i ni, ac yn gadael i ni chwarae ein rhan yn y gwaith o amddiffyn y safle hwn o ddiddordeb gwyddonol arbennig i bawb ei fwynhau heddiw ac am flynyddoedd lawer i ddod.”

Mae yna bartneriaeth wedi bod ers tro gyda Bourne Leisure, ac mae Tîm Ceidwaid Arfordir Sir y Fflint yn cefnogi ac yn arwain y gwaith yn y twyni tywod i amddiffyn unig system dwyni tywod Sir y Fflint.  Cefnogwyd y gwaith hwn gan berthnasoedd hirsefydlog eraill gyda Phrifysgol Caer, Coleg Llysfasi a Choleg Cambria, sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a hyfforddiant o fewn y sector cefn gwlad.