Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bydd Ffaglau Sir y Fflint ar dân i goffau D-Day

Published: 03/06/2024

I nodi 80 mlynedd ers D-day, bydd Tîm Mynediad ac Amgylchedd Naturiol Sir y Fflint, mewn partneriaeth ag eraill, yn goleuo ffaglau ar hyd arfordir Sir y Fflint am 9:15y.h. ar 6 Mehefin.

Bydd y deyrnged ryngwladol yn cael ei darllen ym mhob safle fel rhan o’r digwyddiadau coffáu cenedlaethol a gynhelir ledled y wlad gan gydnabod ymdrech ac aberth y rhai a gymerodd ran yn D-day ei hun a’r rhai fu’n ei cefnogi adref.

Bydd y ffaglau yn cael eu goleuo ar hyd arfordir Sir y Fflint ym Magillt (Bettisfield), Doc Maes Glas, Penrhyn y Fflint, y Fflint (RNLI) a Saltney, gan ymuno â channoedd o rai eraill a fydd yn cael eu goleuo ledled y wlad fel lampau heddwch. Mae'r coed ar gyfer y ffaglau wedi'i noddi gan y cwmni trin coed lleol, Hollywell Tree Care. Mae gan bob ffagl ei dyluniad unigryw, gyda ffagl y ddraig yn Bettisfield yn olygfa ynddo'i hun. Wedi’i ddylunio a’i adeiladu gan y crefftwr a’r gof lleol Peter Carlyle mae’r ffagl drawiadol hon yn gwylio dros aber yr afon Dyfrdwy.

Fel rhan o ddathliadau D-day mae gwirfoddolwyr lleol a phartneriaid wedi camu i’r adwy unwaith eto i helpu i wneud y digwyddiadau’n llwyddiant. Yn Bettisfield mae’r Grwp Gweithredu Bagillt yn darparu lluniaeth a cherddoriaeth i helpu i gofio’r diwrnod pwysig hwn mewn hanes, ac mae selogion lleol yn dod â cherbydau milwrol i nodi’r achlysur. Bydd Maer a Chrïwr Tref Treffynnon yn darllen teyrngedau yn Noc Maes Glas, y Maer a Dirprwy Faer y Fflint yn y Fflint ac ym Mhenrhyn y Fflint a’r Maer yn Saltney. Bydd tîm lleol yr RNLI yn goleuo'r ffagl ger gorsaf yr RNLI yn y Fflint. 

Gobeithiwn y bydd aelodau’r cyhoedd yn ymuno â ni i gofio’r digwyddiad hanesyddol hwn gan ddangos parch a diolch i weithredoedd y rhai hynny a sicrhaodd rhyddid i genedlaethau’r dyfodol.

Pic: Aeron-Haf Gittins