Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gofalwr maeth Sir y Fflint yn rhannu rysáit i’r teulu mewn llyfr coginio newydd gyda chymorth enwogion
Published: 16/05/2024
Dros y Bythefnos Gofal Maeth™ eleni, mae Maethu Cymru Sir y Fflint yn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn ofalwyr maeth, er mwyn cefnogi pobl ifanc lleol mewn angen.
Dengys ymchwil diweddar gan Maethu Cymru – rhwydwaith cenedlaethol gwasanaethau maethu awdurdodau lleol – fod pobl yn aml yn ansicr ynghylch gwneud cais i ddod yn ofalwr gan nad ydyn nhw’n credu fod ganddynt y profiad a’r sgiliau ‘cywir’.
Yn eu llyfr coginio newydd, Gall Pawb Gynnig Rhywbeth, mae Maethu Cymru yn tynnu sylw at y pethau syml y gall gofalwr eu cynnig, megis sicrhau pryd o fwyd rheolaidd, amser teulu o amgylch y bwrdd, a chreu hoff fwydydd newydd.
Mae dros 20 o ryseitiau yn y llyfr coginio, gan gynnwys ryseitiau gan y gymuned gofal maeth a chogyddion enwog.
Mae Jenny, un o’n gofalwyr maeth yma yn Sir y Fflint, wedi croesawu dros 45 o blant i’w chartref ers iddi ddechrau maethu yn 2017, ac mae hi’n gweld coginio efo nhw yn rhywbeth defnyddiol i helpu nhw i setlo i mewn.
Ac mae hi’n falch iawn o gael cyfrannu ei rysáit pitsa cartref at y llyfr coginio.
Meddai Jenny: “Rydw i’n gwneud pitsas efo’r bobl ifanc sy’n dod i aros efo fi, mae tylino'r toes yn rhywbeth boddhaus a defnyddiol i bobl ifanc sy’n teimlo dan straen. Maen nhw’n cael hwyl wrth ychwanegu eu topins eu hunain, ac yna maen nhw’n gallu mwynhau bwyta rhywbeth blasus wrth wylio ffilm. Dw i’n gweld hyn yn rhywbeth da i’w wneud efo person ifanc ar nos Sadwrn.”
Bob mis Mai, mae’r Bythefnos Gofal Maeth™ – ymgyrch flynyddol gan y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos i bobl sut y mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau, yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r angen am fwy o ofalwyr maeth.
Mae dros 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.
Nod mentrus Maethu Cymru yw recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.
Meddai Neil Ayling, Prif Swyddog, Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir y Fflint: “Rydym ni’n edrych ymlaen at lansiad llyfr coginio Maethu Cymru ac mae’n braf gweld bod Jenny wedi cyfrannu ei rysáit arbennig a rhannu ei phrofiadau o sut mae coginio yn gallu bod yn ffordd wych o gefnogi pobl ifanc.
“Rydym ni’n ffodus iawn yn Sir y Fflint o gael grwp ymroddedig a gofalgar o ofalwyr maeth sy’n gwneud gwaith penigamp ar gyfer plant a phobl ifanc ein cymunedau. Ond mae arnom ni angen mwy o ofalwyr maeth i sicrhau bod y plant a’r bobl ifanc yma’n cael aros yn eu bro a’u hysgolion, yn agos at eu ffrindiau a’u teuluoedd. Rwyf yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â’n cymuned faethu i gysylltu â thîm Maethu Cymru Sir y Fflint.”
Bydd y llyfr coginio’n cael ei ddosbarthu i ofalwyr maeth ar draws Cymru a gellir lawrlwytho fersiwn ddigidol oddi ar: https://maethucymru.llyw.cymru/gall-pawb-gynnig-rhywbeth/
I ddysgu mwy am fod yn ofalwr maeth yng Nghymru, ewch i maethucymru.llyw.cymru