Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad o Ostyngiad Person Sengl

Published: 25/03/2024

Mae trethdalwyr yn Sir y Fflint sy’n cael gostyngiad o 25% ar eu bil fel trigolion deiladaeth sengl yn cael eu gwirio yn fuan i sicrhau fod y gostyngiadau yn gywir.

Mae hwn yn ymarfer rheolaidd, a chynhaliwyd adolygiad tebyg yn ystod 2022.

Bydd Datatank Ltd, darparwr gwasanaeth arweiniol sy’n arbenigo â’r adolygiadau hyn, yn gweithio gyda’r Cyngor i gadarnhau’r gostyngiad ar gyfer hawlwyr dilys, ac i nodi pobl sy’n hawlio gostyngiad ar eu Treth y Cyngor pan nad oes ganddynt hawl i’w gael.

Mae’r adolygiad yn ffurfio rhan o fesurau’r Cyngor i atal twyll ac i ddiogelu pwrs y wlad.

Pan gaiff hawliadau anghywir eu nodi, bydd y Cyngor yn dod â’r hawliadau hynny i ben gan geisio adennill y gostyngiad o ddyddiad priodol.

Ar hyn o bryd mae bron i 24,000 o drigolion – un o bob tri chartref, yn hawlio gostyngiad person sengl ac er bod mwyafrif helaeth y trigolion hyn yn hawlio'r gostyngiad yn gywir, mae’n bosibl y bydd achosion lle nad yw'r Cyngor wedi cael gwybod am newid mewn deiliadaeth cartref a all effeithio ar y gostyngiad neu lle hawlir y gostyngiad trwy dwyll yn fwriadol.  

Anogir unrhyw drethdalwyr sy’n derbyn gostyngiad ac sy'n teimlo nad yw’n gywir, i gysylltu â gwasanaeth Treth y Cyngor ar unwaith ar (01352) 704848 neu hysbysu ynghylch newid amgylchiadau ar-lein yn https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-Tax/Council-Tax.aspx cyn i’r adolygiad llawn ddechrau canol Ebrill 2024.