Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae’r Sgwad Cymorth Digidol yma!
Published: 14/03/2024
Mae cynhwysiant digidol yn flaenoriaeth yng Nghyngor Sir y Fflint ac mae’r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau nad yw trigolion y sir yn cael eu cau allan o’r byd digidol.
Mae’r Cyngor newydd lansio gwasanaeth arloesol i drigolion y sir, lle mae gwirfoddolwyr o’r sefydliad, y Sgwad Cymorth Digidol, yn darparu cefnogaeth wyneb yn wyneb a rhad ac am ddim i helpu pobl i fagu hyder i ddefnyddio technoleg ddigidol.
Cynhaliwyd y gymhorthfa ddigidol gyntaf ddydd Gwener 8 Mawrth yn swyddfa Treffynnon yn Cysylltu. Rhai o’n hymwelwyr cyntaf oedd Mr a Mrs Roberts o Gilcain, ac maen nhw rwan yn gallu defnyddio eu dyfais i gadw mewn cysylltiad â’u teulu. Roeddent wedi dechrau colli gobaith o gael eu hail-gysylltu tan i’n Sgwad Cymorth Digidol ddatrys y broblem.
Roedden nhw wrth eu bodd gyda’r gefnogaeth.
Meddai Mr Roberts: “Roedd hyn wedi achosi problemau mawr i mi, roeddech chi’n wych, diolch.”
Roedd Mrs Roberts yr un mor ddiolchgar ar ôl gorfod dioddef Mr Roberts yn “cwyno” ers peth amser!
Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol: “Dyma fenter wych i’n cymunedau sy’n helpu ein trigolion i ddefnyddio dyfeisiau a gwasanaethu digidol, gan roi sgiliau a hyder iddyn nhw ymgysylltu â’r byd digidol. Dw i’n edrych ymlaen at weld ein Sgwad Cymorth Digidol yn estyn y gefnogaeth ar draws y sir.”
Gall y Sgwad Cymorth Digidol helpu pobl gydag amrywiaeth o bethau, gan gynnwys materion ariannol, iechyd, cymdeithasol, cyflogaeth, cyfathrebu a:
• Defnyddio’r rhyngrwyd a chyfrifon e-bost
• Cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau
• Dysgu am bethau sydd o ddiddordeb
• Cefnogi ffrindiau, teulu neu gymdogion nad ydyn nhw mor gyfarwydd â thechnoleg ddigidol
Ewch i Ganolbwynt Digidol Cyngor Sir y Fflint am fwy o wybodaeth am y gefnogaeth ddigidol sydd ar gael.