Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer datblygu cynllun creu lleoedd canol tref
Published: 13/03/2024
Mae Cyngor Sir y Fflint ar fin lansio cyfres o arolygon ymgynghori cyhoeddus, lle anogir pobl leol i helpu i siapio dyfodol ein pedwar canol tref: Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry.
Mae’r gweithgaredd ymgynghori cynlluniedig yn rhan o’r broses i ddatblygu saith ‘Cynllun Creu Lleoedd’ ar gyfer canol trefi yn y deunaw mis nesaf. Dechreuodd y gwaith ar y Cynlluniau Creu Lleoedd yn 2023 ar gyfer trefi Bwcle, Treffynnon a Shotton, mewn ymateb i gysyniad Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer trefn cwblhau’r cynlluniau.
Mae gweithgarwch datblygu Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei arwain gan Dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint mewn cydweithrediad ag ystod o wasanaethau eraill y cyngor a sefydliadau partner allanol. Mae hyn mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru fod holl awdurdodau lleol ar draws Cymru i sefydlu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer eu trefi. Mae angen y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru fod ar gael i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi: “Yn debyg i nifer o drefi ar draws y wlad, mae strydoedd mawr Sir y Fflint wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil newidiadau i arferion siopa a phandemig covid-19.
“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i ddatblygu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer trefi ar draws Sir y Fflint gan eu bod yn allweddol i ddenu prosiectau buddsoddi yn y dyfodol a fydd yn cael effeithiau cadarnhaol ar bobl leol a’n heconomi leol”.
Bydd y Cynlluniau Creu Lleoedd yn nodi gweledigaeth y dyfodol ar gyfer pob tref, amlinellu blaenoriaethau a all helpu i wella bywiogrwydd ac atyniad cyffredinol y lleoliad a cheisio mynd i’r afael ag anghenion y bobl sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â’r trefi. Mae datblygiad y cynlluniau ar gyfer pob tref yn creu cyfleoedd ar gyfer ystod o fudd-ddeiliaid i gydweithio er mwyn darparu gwelliannau.
Bydd gan bobl leol sy’n byw neu weithio mewn neu ger Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry, gyfle i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein am eu canol trefi o 13 Mawrth 2024 i 1 Ebrill 2024.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Meddai Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi: “Yn dilyn mwy na 4440 o ymatebion i’r ymgynghoriadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer Bwcle, Treffynnon a Shotton, a gyflawnwyd yn 2023, mae gwaith yn parhau i ddatblygu’r tri yma yn y Cynlluniau Creu Lleoedd.
“Unwaith i’r cynlluniau hyn gael eu datblygu, byddent yn cael eu rhannu gyda’r cyhoedd ar gyfer ymgynghoriad pellach cyn cael eu hystyried ar gyfer mabwysiadu gan y Cyngor a’i bartneriaid allanol sy’n rhan o’r gwaith Creu Lleoedd. O ystyried y cynnydd a wnaed ar y 3 Cynllun Creu Lleoedd dechreuol, bydd ymgynghoriad yn dechrau gyda chymunedau Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry.”
Yn dilyn yr ymgynghoriadau ar-lein sydd ar y gweill, bydd cyfres o sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ymhob tref. Bydd mwy o wybodaeth ar ddyddiadau a lleoliadau’r digwyddiadau hyn yn cael eu rhyddhau’n fuan.