Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymateb gwych i arolwg addysg Brychdyn a Saltney
Published: 05/12/2023
Mae dros 1,500 o bobl wedi dweud eu dweud am ddyfodol addysg ym Mrychdyn a Saltney.
Cwblhaodd Gyngor Sir y Fflint ymarfer ymgysylltu cynnar dros dymor yr haf i gasglu barn y gymuned a siapio dyfodol darpariaeth addysg yn yr ardal.
Cynhaliwyd yr arolwg hwn, a gafodd ei rannu gydag ystod eang o bobl yn y gymuned, o ddydd Mawrth, 6 Mehefin 2023 tan ddydd Llun, 3 Gorffennaf 2023, a chasglwyd 1,503 o ymatebion gan y cyhoedd. Cafwyd lefel uchel o ymgysylltiad gan ddisgyblion yr ymgynghorwyd â hwy ar y cynlluniau hefyd.
Cyflwynwyd nifer o opsiynau posibl i ymatebwyr:
1. Gwneud dim - cadw ysgolion Brychdyn a Saltney fel ag y maent.
2. Gwneud y lleiafswm i gael gwared â’r ôl-groniad o broblemau cynnal a chadw.
3. Ailwampio ac ymestyn cyfleusterau presennol (lle bo modd).
4. Adeiladu Campws 3 - 16 i gynnwys Ysgol Uwchradd Dewi Sant a chyfuno Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood.
5. Adeiladu Ysgol Gydol Oes 3 - 16.
6. Adeiladu Ysgol Uwchradd 11-16 newydd i Ysgol Uwchradd Dewi Sant ar safle Bretton ac adeiladu Ysgol Gynradd 3-11 newydd ar hen safle Ysgol Uwchradd Dewi Sant.
7. Cau Ysgol Uwchradd Dewi Sant
Roedd y mwyafrif (443) o bobl yn anghytuno’n gryf gydag opsiwn 1 i wneud dim byd a chadw ysgolion fel ag y maent. Opsiwn 6 oedd yr opsiwn a ffefrir o ran nifer yr ymatebion ‘cytuno’n gryf’ (383), fodd bynnag, roedd 205 o bobl yn anghytuno’n gryf.
Opsiwn 3 oedd yr opsiwn a ffefrir yn gyffredinol gyda 332 o ymatebwyr yn anghytuno’n gryf a 235 yn cytuno. Opsiwn 7 oedd y cynnig a ffefrir leiaf o bell ffordd, gyda 717 o ymatebwyr yn anghytuno’n gryf a dim ond 52 yn cytuno’n gryf.
Canfuwyd mai cyflwr adeiladau a safon cyfleusterau oedd y broblem fwyaf pan ofynnwyd beth oedd yn peri’r pryder mwyaf am eu hysgol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Mared Eastwood: “Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg ymgysylltu cynnar. Roedd yr ymateb cyffredinol yn gadarnhaol ond mae consensws cyffredinol yn y gymuned bod angen newid ac y byddai buddsoddiad yn ddymunol.
“Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymo i ddarparu addysg a chyfleoedd o ansawdd uchel i ddisgyblion. Rydym yn gweithio i ddatblygu cynllun sy’n darparu strategaeth newydd ar gyfer addysg yn yr ardal sy’n gynaliadwy ac yn fforddiadwy.”
Bydd canlyniad yr arolwg yn mynd i’r Cabinet i’w drafod gan aelodau yn y misoedd nesaf.