Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhybuddion Cosb Benodedig Llwyddiannus ar gyfer tipio anghyfreithlon yng Nghei Connah
Published: 20/11/2023
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig (RhCB) gwerth £300 i ddau unigolyn wnaeth daflu amryw o sachau du yn ardal Cei Connah yn ddiweddar.
Cynhaliwyd yr ymchwiliad llwyddiannus yma gan Swyddogion Gorfodi y Cyngor ar ôl derbyn fideo teledu cylch caeedig oedd yn dangos y tipio anghyfreithlon yn digwydd ar lôn gefn.
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes: “Dyma ganlyniad ardderchog arall i’r Cyngor mewn ardal lle mae eitemau gwastraff aelwydydd yn parhau i gael eu gadael ar y stryd heb unrhyw ystyriaeth i’r gymuned leol na’r amgylchedd.
Nid yw tipio anghyfreithlon byth yn dderbyniol, ac mae’n weithgarwch troseddol a all achosi llygredd difrifol i’r amgylchedd, gall fod yn berygl i iechyd dynol a niweidio bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, yn ogystal â dargyfeirio timau hanfodol i ffwrdd o wasanaethau cyhoeddus hanfodol ac achosi costau diangen.”
Pan fydd rhywun yn troseddu a bod yna ddigon o dystiolaeth i erlyn y troseddwr, mae Rhybudd Cosb Benodedig yn gallu cael ei gyflwyno, nad yw’n cynnwys cofnod troseddol cyn belled â’i fod yn cael ei dalu o fewn yr amserlen benodol. Fodd bynnag, os bydd y troseddwr yn methu talu neu’n dewis peidio talu, bydd y cyngor yn erlyn yn y llys. Os bydd yn cael ei ganfod yn euog o drosedd, mae’n debygol y bydd y ddirwy yn llawer uwch na’r Rhybudd Cosb Benodedig ac yna bydd gan y troseddwr gofnod troseddol.
Mae’n bosibl nad yw preswylwyr yn ymwybodol, os byddant yn trosglwyddo eu gwastraff i rywun sy’n mynd ymlaen i’w daflu yn anghyfreithlon, yna mae yna berygl y byddant yn cael eu herlyn am droseddau dyletswydd gofal eu hunain, neu os byddant yn gadael eitemau ar gyfer casglwyr sgrap sy’n mynd ymlaen i’w taflu’n anghyfreithlon.
Rydym yn annog preswylwyr i waredu eu heitemau gwastraff yn gywir gan ddefnyddio’r gwasanaeth casgliadau ailgylchu a gwastraff stepen drws, neu drwy un o bum canolfan ailgylchu.
Dylai preswylwyr sydd angen cael gwared ar eitemau mawr fynd â nhw i ganolfan ailgylchu neu ddefnyddio’r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus a ddarperir gan y Cyngor. Pan mae gan breswylydd swmp o ailgylchu a gwastraff i waredu, yna rydym yn argymell defnyddio gwasanaethau cwmni llogi sgip cymeradwy neu gontractwr gwaredu gwastraff. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Os byddwch yn gweld rhywun rydych yn amau sy’n tipio yn anghyfreithlon, gwnewch nodyn o’r:
- Diwrnod, dyddiad ac amser wnaethoch weld y tipio anghyfreithlon yn digwydd.
- Faint o bobl oedd yn cymryd rhan, eu hedrychiad a beth oeddent yn ei wneud
- Unrhyw gerbydau neu drelar oeddent yn eu defnyddio - os yn bosibl, nodwch y gwneuthuriad, lliw a rhif cofrestru
- Beth gafodd ei daflu: faint o wastraff a sut oedd yn edrych
Yna, bydd y cyngor yn archwilio’r deunyddiau a daflwyd, trefnu i’w symud, casglu tystiolaeth a chyfweld unrhyw un amheus.
I roi gwybod am dipio anghyfreithlon gallwch ddefnyddio’r ffurflen Rhoi Gwybod yma neu ffonio 01352 701234. Mae’n bosibl y gofynnir i chi am ddatganiad ysgrifenedig o’r hyn wnaethoch ei weld.