Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Achub y Stryd Fawr
Published: 08/11/2023
Bydd cyfle i fusnesau yn Sir y Fflint gael cefnogaeth wedi’i theilwra ar eu cyfer mewn ymgais i wella canol trefi’r sir.
Daw’r cynllun newydd ar ôl i fwy nag £1 miliwn gael ei ddyfarnu i dîm adfywio’r Cyngor o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Yn gynharach eleni, cynhaliodd y tîm dendr i ddod o hyd i bartner i ddarparu cefnogaeth un-i-un i fusnesau, a dyfarnwyd y contract i SaveTheHighstreet.org – mudiad a lansiwyd yn 2016 gyda gweledigaeth newydd, gyffrous ar gyfer y stryd fawr.
Bydd y cynllun peilot ar fynd tan fis Ebrill a’r nod fydd cynghori 15 o fusnesau mewn 7 tref – yr Wyddgrug, Bwcle, y Fflint, Treffynnon, Cei Connah, Shotton a Queensferry.
Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi: “Dyma’r tro cyntaf mae SaveTheHighstreet wedi gweithio gydag awdurdod lleol yng Nghymru ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth maent yn gallu ei gynnig i Sir y Fflint.
“Bydd y cynllun peilot yn ein galluogi ni i weithio gyda 15 o fusnesau lleol i ddechrau, ond os yw’r prosiect yn llwyddiannus, gobeithio y gallwn ei ymestyn i helpu mwy. Fel Cyngor, rydyn ni’n ymroi i fuddsoddi yng nghanol ein trefi er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd Alex Schlagman, un o’r partneriaid a sefydlodd SaveTheHighStreet.org: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i ni gael effaith gadarnhaol ar fusnesau lleol a stryd fawr trefi ar hyd a lled Sir y Fflint dros y misoedd nesaf.
“Gan adeiladu ar ein profiad o ddarparu dwsinau o raglenni cefnogi llwyddiannus mewn rhannau eraill o’r DU, mae’r tîm i gyd yn falch o fod yn lansio ein partneriaeth gyntaf gyda Chyngor yng Nghymru, sef Cyngor Sir y Fflint.”
Gall busnesau sydd wedi’u lleoli yng nghanol y 7 tref ddarganfod mwy am y prosiect mewn digwyddiad lansio ddydd Mercher 22 Tachwedd 2023 am 5pm yng Ngwesty Flint Mountain neu drwy gysylltu â regeneration@flintshire.gov.uk