Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Trigolion Galw Gofal yn cael eu targedu gan dwyllwyr
Published: 06/11/2023
Mae angen i drigolion sydd â system larwm personol Galw Gofal fod yn wyliadwrus yn dilyn nifer o alwadau twyll.
Mae angen uwchraddio rhai offer larwm Galw Gofal fel rhan o ofynion Ofcom i BT ac Openreach ddiweddaru eu system ffôn i un digidol. Mae twyllwyr yn defnyddio hyn i geisio cael trigolion i dalu arian am wasanaethau nad oes angen iddynt dalu amdanynt.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael sawl adroddiad o alwadau twyll yr wythnos hon gan drigolion pryderus.
Y cwmnïau telecom sy’n gyfrifol am yr uwchraddiad, a byddant yn hysbysu pobl am y newidiadau ar sail cod post, rhwng nawr a Rhagfyr 2025. Bydd angen gosod larwm Galw Gofal newydd cyn newid i’r system ddigidol.
Bydd y Cyngor yn cysylltu â’r holl drigolion sydd â larwm yn eu heiddo dros y misoedd nesaf i gadarnhau amser a dyddiad cyfleus i ymweld â nhw i uwchraddio eu system larwm cyn y newid digidol.
Dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby, Aelod Cabinet Tai ac Adfywio: “Rydym yn clywed am dwyllwyr yn defnyddio’r newid hwn i dwyllo pobl i dalu am wasanaethau diangen. Ni fyddai’r Cyngor byth yn ffonio cwsmeriaid Galw Gofal i ofyn am arian. Os ydych yn cael galwad o’r fath, rhowch y ffôn i lawr. Peidiwch byth â rhoi eich manylion banc neu wybodaeth bersonol.
“Os ydych yn gwybod fod gan aelod o’r teulu neu ffrind larwm Galw Gofal, gadewch iddynt wybod am hyn a gofyn iddynt fod yn wyliadwrus.”