Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Tafarn Ruthin Castle, yr Wyddgrug: Adolygu’r drwydded
Published: 24/10/2023
Mae tafarn The Ruthin Castle yn yr Wyddgrug wedi bod yn destun adolygiad o’u Trwydded Eiddo, gan arwain at gwtogi eu horiau agor, diddymu cerddoriaeth fyw o’u caniatâd, ac ychwanegu amodau llym at eu trwydded.
Mae’r amodau hyn yn cynnwys y rhai sydd wedi’u dylunio i leihau effaith unrhyw swn o’r eiddo ar y rhai sy’n byw gerllaw, ac i gynorthwyo i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae’r weithdrefn adolygu wedi’i dylunio i fod yn ddewis olaf pan fo tystiolaeth fod eiddo wedi bod yn tanseilio amcanion trwyddedu.
Mae gan ddeiliaid trwydded yn Sir y Fflint gofnod o weithio’n dda gyda Thîm Trwyddedu’r Awdurdod a’r partneriaid, a byddant yn gweithio gyda ni ac aelodau’r gymuned i adfer unrhyw broblemau a nodir yn yr eiddo.
Dim ond y trydydd adolygiad o’r fath yw hwn yn Sir y Fflint ers cyflwyno’r Ddeddf yn 2003 a’i gweithredu yn 2005.
O ran tafarn The Ruthin Castle, mae’r Adain Drwyddedu, Swyddogion Rheoli Llygredd a Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud sawl ymgais i weithio gyda rheolwyr yr eiddo cyn cymryd y cam hwn fel y dewis olaf. Cydnabu deiliaid y drwydded eiddo, EI Group, y ceisiwyd ymagwedd fesul cam rhwng mis Ebrill 2023 a mis Awst 2023 heb fawr o welliant, a derbyn bod eu tenant wedi methu â hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac maent wedi ymrwymo i gadw’r lle ar gau nes y ceir tenant addas.
Roedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu yn glir, o ystyried ymrwymiad EI Group i oruchwylio’r dafarn yn agosach yn y dyfodol, ynghyd â gwerth yr eiddo i’r gymuned, nad oeddent yn credu y byddai dirymu’r drwydded yn briodol na chymesur.
Meddai Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi: “Rydym yn gwybod bod lletygarwch wedi wynebu cyfnod anodd yn sgil y pandemig, ac mae’r Cyngor yn deall pwysigrwydd eiddo o’r fath i’r gymuned leol a’i fod yn allweddol o ran cymdeithasu a lles. Y peth olaf yr ydym eisiau ei wneud fel awdurdod trwyddedu yw dirymu caniatâd”.
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd Cyhoeddus, a Gwarchod y Cyhoedd: “Y weithdrefn adolygu yw’r cam olaf pan fo’r holl ddewisiadau eraill wedi methu. Mae’n bodoli er mwyn diogelu ein cymunedau ac mae’n enghraifft dda o sut mae’r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth i gael y canlyniad cywir i bawb."