Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Haf o ‘Fwyd a Hwyl’ yn Sir y Fflint

Published: 22/08/2023

Roedd cannoedd o blant Sir y Fflint wedi mwynhau prydau maethlon am ddim a gweithgareddau hwyliog yr haf hwn.

Nawr yn ei bumed flwyddyn, mae’r cynllun Bwyd a Hwyl yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Roedd dros 300 o blant oed cynradd ac uwchradd wedi cymryd rhan eleni rhwng 24 Gorffennaf a 10 Awst. 

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood - Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Mae Bwyd a Hwyl yn galluogi teuluoedd i fanteisio ar strwythur yn ystod gwyliau’r haf.   Mae’n helpu rhieni i gwrdd â chostau gofal plant ac mae’n cynnig cyflogaeth â thâl i bobl leol sy’n hynod fuddiol i holl gymunedau.”

Dros 12 diwrnod y rhaglen, roedd y plant wedi cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau ymgysylltu yn canolbwyntio ar iechyd, hapusrwydd a lles.   Bu i’r plant oedd yn mynychu fwynhau brecwast, byrbryd a chinio poeth iach wedi eu darparu bob dydd gan Arlwyo NEWydd.

Roedd Hamdden Aura wedi darparu amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon a gemau rhyngweithiol ynghyd ag ystod eang o weithgareddau cyfoethogi a gydlynwyd gan bob ysgol.   Yn yr adborth a dderbyniwyd gan y plant, roedd osgoi’r bêl, sgiliau syrcas a gemau parasiwt i gyd yn ymddangos yn boblogaidd eleni. 

Roedd plant oedd yn bresennol hefyd yn dysgu am faeth a diet iach, dysgu sgiliau coginio newydd a mwynhau sesiynau blasu bwyd.   Roedd Gwasanaeth Bwyd Harlech mewn partneriaeth gydag Arlwyo NEWydd wedi cyflenwi bag bwyd i bob plentyn yn ystod trydedd wythnos y rhaglen gydag ystod o gynhwysion i annog teuluoedd i goginio dros y gwyliau.  

Meddai Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid:  “Rydym yn falch o’r gefnogaeth anhygoel gan ein hysgolion lleol eleni.   Mae wedi bod yn wych ymweld ag ambell un a gweld cymaint o blant yn mwynhau eu hunain.  Diolch yn fawr i’r holl staff oedd yn cydlynu a darparu Bwyd a Hwyl ac i’n partneriaid.”

Roedd oddeutu 200 o rieni, gofalwyr a brodyr a chwiorydd hefyd wedi eu croesawu i fynychu cinio wythnosol a oedd yn gadarnhaol iawn yr haf hwn ar ôl ailgyflwyno i’r rhaglen yn dilyn y pandemig.   Roedd adborth a dderbyniwyd ar fyrddau graffiti dynodedig ym mhob ysgol yn cynnwys:

“Mae fy mab yn edrych ymlaen at hwn bob blwyddyn! Mae’n gwella bob amser. Rwyf wrth fy modd yn gweld ei waith am fwyta’n iach. Diolch yn fawr.”

“Bwyd gwych, gweithgareddau gwych, dysgu gwych.  Diolch.”

Yn cymryd rhan eleni ar ôl llwyddo i ddarparu’r rhaglen yn llwyddiannus mewn blynyddoedd blaenorol oedd: Ysgol Bryn Garth, Ysgol Bryn Gwalia, Ysgol Gronant, Ysgol Glan Aber, Ysgol Gynradd Queensferry, Ysgol Maesglas, Ysgol Uwchradd Cei Connah ac Ysgol Treffynnon.

Roedd Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Saltney ac Ysgol Uwchradd y Fflint wedi ailgyflwyno’r rhaglen eleni.  

Roedd Ysgol Pen Coch ac Ysgol Maes Hyfryd, dwy ysgol arbennig yn y Fflint, ac Ysgol Uwchradd Argoed yn Bryn y Baal, wedi cyflwyno’r cynllun am y tro cyntaf.