Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn Dathlu Wythnos Natur Cymru 2023
Published: 26/07/2023
Dathlwyd Wythnos Natur Cymru 2023 yn Sir y Fflint yr wythnos hon gyda digwyddiad natur i’r teulu wedi’i drefnu gan Gyngor Sir y Fflint.
Mae’r wythnos hon yn cynnwys teithiau cerdded natur, sgyrsiau a diwrnodau gweithgareddau ar hyd a lled Cymru, wedi’u trefnu gan amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion sy’n dod at ei gilydd ar gyfer Wythnos Natur Cymru. Fe’i cynhelir rhwng 22 a 30 Gorffennaf, a thema Wythnos Natur Cymru eleni yw ‘Dathlu Trysorau Natur.’
Peidiwch â phoeni os na allwch fynychu. Ewch allan i fwynhau’r natur ar garreg eich drws!
Mae’r frwydr ‘bioblitz’ ym Mharc Gwepra a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn frwydr rhwng ardaloedd lle caiff y gwair ei dorri neu ei adael i dyfu yn hir yn ogystal â blodau gwyllt, ac mae gweithgareddau wedi edrych ar yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sy’n cael eu cynnal gan laswellt hir o’i gymharu â glaswellt sy’n cael ei dorri.
Er bod glaswellt wedi’i dorri yn cael ei weld fel twt a thaclus, nid oes amheuaeth lle mae mwy o fywyd i’w gael - a ninnau yn wynebu argyfwng natur a hinsawdd ni ellir diystyru'r aml fuddion sydd o adael i laswellt dyfu’n hir. Mae’n amser gwerthfawrogi gwerth glaswellt hir a’r holl fuddion a ddaw yn ei sgil.
Ymysg y rhywogaethau y daethom ar eu traws yn yr ardaloedd na chafodd eu torri oedd y pryf hofran cacynaidd, gwibwyr mawr a gwyfynod y bwrned a llawer mwy.
Meddai Sean McHugh o Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru:
“Bob blwyddyn rydym ni’n dewis thema. Eleni rydym ni’n annog pobl i ddarganfod y rhywogaethau a’r cynefinoedd gwych yng Nghymru o dan ein thema: Dathlu Trysorau Natur.
Rydym yn gwerthfawrogi ac yn ymhyfrydu yn rhyfeddod y byd naturiol, o'r pethau bach i’r pethau mawr; o brydferthwch plu drudwy; syfrdanu ar fawredd tirwedd Cymru neu fwynhau byd natur yn y parc lleol.
Mawr a bach, dyma ein trysorau, ein treftadaeth naturiol, a etifeddwyd gan bob cenhedlaeth i’w darganfod, ac mae’n hollbwysig ein bod yn dathlu ac yn gwarchod natur rwan, ac yn y dyfodol."
I gael mwy o fanylion am Wythnos Natur Cymru 2023 a’r calendr digwyddiadau, ewch i: https://www.biodiversitywales.org.uk/Chwilio
NODYN I OLYGYDDION:
1. Cydlynir Wythnos Natur Cymru gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn dwyn ynghyd chwaraewyr allweddol o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i hyrwyddo a monitro effaith bioamrywiaeth a’r ecosystem yng Nghymru. Mae Wythnos Natur Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan Gyfoeth Naturiol Cymru.