Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgol Uwchradd Cei Connah
Published: 20/12/2018
Croesawodd Ysgol Uwchradd Cei Connah ymwelwyr yn ddiweddar i ddangos ei adeilad newydd wedi’i gwblhau – Cam 1 o’r gwelliannau presennol sy’n cael eu gwneud yn yr ysgol.
Mae ymwelwyr yn cynnwys Cynghorwyr Sir lleol, Cyngor Tref Cei Connah, Kier Construction, Llywodraeth Cymru a swyddogion Cyngor.
Mae’r gwaith o adeiladu'r adeilad newydd wedi dechrau yn Awst 2017 ac yn ganolog i gael gwared ar y bloc Dylunio a Thechnoleg bresennol, yn ogystal â'r bloc Celf a Thechnoleg Bwyd a chodi adeilad dwy lawr newydd yn cynnwys Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Bwyd, Celf a Dylunio ag ystafell ar gyfer darpariaeth dysgu ychwanegol, gofod swyddfa, toiledau, lifft, grisiau ac ystafell cadw offer mecanyddol.
Mae’r gwaith yn ffurfio rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg gan Lywodraeth Cymru ac yn dilyn y gwaith a gwblhawyd yn llwyddiannus yng Nghampws Dysgu Treffynnon a Choleg 6ed Dosbarth Glannau Dyfrdwy.
Bydd Cam 2 yn barhad o’r prosiect gyda Kier Construction. Bydd y gwaith yn cynnwys gorchudd allanol, to newydd i’r Neuadd Chwaraeon a dymchwel bloc gweinyddu presennol ac ailwampio llety i roi ardal gweinyddu newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:
"Mae moderneiddio’r ysgol, a oedd wir ei angen, wedi’i wneud i safon uchel a bydd yr ysgol rwan yn mwynhau cyfleusterau modern o’r radd flaenaf a’r cyfleoedd dysgu gorau posib. Mae’r Cyngor yn parhau'n ymrwymedig i fuddsoddi yn nyfodol ein plant a phobl ifanc. Rydym yn parhau i weithio i ddarparu addysg cynaliadwy o safon uchel i’n holl ddysgwyr."
Meddai’r Pennaeth, Ann Peers:
"Bydd yr adeilad gwych yn golygu bydd ein hysgol gyda’r cyfleusterau i ddarparu addysg 21ain ganrif effeithiol ar amser lle mae ei angen fwyaf. Mae pawb yn yr ysgol yn hynod gyffrous i weld y gwaith wedi’i gwblhau ac yn methu disgwyl i symud i mewn!"
Dywedodd Peter Commins, Rheolwr Gyfarwyddwr Kier Construction Gogledd-Orllewin Lloegr:
"Cwblhau cam un o’r adeilad addysgol newydd i'r ysgol yw'r garreg filltir gyntaf mewn darparu cyfleusterau addysg o'r safon uchaf i fyfyrwyr a fydd yn eu helpu nhw gyflawni eu potensial llawn. Hoffwn ddiolch i'r ysgol, Cyngor Sir Y Fflint, Llywodraeth Cymru, ein cadwyn gyflenwi a phawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hyd yma. Edrychwn ymlaen at gyflawni cam 2 ac felly cwblhau'r gwaith o foderneiddio Ysgol Uwchradd Cei Connah."
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
"Rwyf falch iawn o glywed bod Cam 1 o’r gwaith yn Ysgol Uwchradd Cei Connah wedi’i gwblhau.
"Mae buddsoddi i greu ysgolion sydd wedi eu dylunio’n dda, yn ddiogel ac yn effeithlon o ran ynni yn ganolog i Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg, gan sicrhau bod ein hysgolion yn gallu diwallu anghenion ein dysgwyr, athrawon a’r gymuned ehangach.
"Mae’r cyfleusterau newydd hyn yn dangos ein hymrwymiad i wella darpariaeth pynciau Dylunio a Thechnoleg, sydd yn rhan allweddol o'r maes dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ein cwricwlwm newydd."
Prif ddisgyblionRobert Bouckley a Phoebe Edwards gyda Phrif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint Colin Everett a'r Cyng Andy Dunbobbin ynghyd â'r chwith i'r dde, Cyng Aaron Shotton, Justin Williams - Kier, Ann Peers - prifathrawes, Andrew Martin - Llywodraeth Cymru, Cyng Paul Shotton, Paula Vogt - Cyngor Sir y Fflint, Andy Young - Kier, Steven Goodrum - Cyngor Tref Cei Connah, Natalie James-Rutledge - Llywodraeth Cymru, Cllr Pamela Attridge - Cyngor Tref Cei Connah a John Colclough - dirprwy bennaeth