Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygiad o'r Gwasanaeth gwastraff gardd taladwy
Published: 06/12/2018
Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn trafod effaith y gwasanaeth gwastraff gardd daladwy yn ei gyfarfod yr wythnos nesaf.
Cyflwynwyd y ffioedd newydd yn Ebrill 2018 i helpu'r Cyngor i gadw at ei gyllideb ac i sicrhau bod y gwasanaeth yn ôl y disgresiwn hwn yn adennill costau yn llawn.
Gofynnir i’r Pwyllgor Craffu i gefnogi’r parhad o’r polisi codi ffi ar gyfer 2019 a thu hwnt a bod y gost bresennol o £30 fesul bin yn aros yr un fath yn 2019.
Yn y flwyddyn gyntaf o’r broses tanysgrifio, gwerthwyd 33,871 o drwyddedau sydd yn golygu dros 40% o breswylwyr wedi tanysgrifio am o leiaf un bin i gael ei gasglu o dan y gwasanaeth newydd.
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
“Mae’r defnydd gwirioneddol wedi rhagori ryw fymryn ar ein targed ariannol sydd yn golygu y gallwn o bosib edrych ar systemau yn seiliedig ar dechnoleg sydd yn cynnig dull mwy effeithlon o gofrestru bin i eiddo. Bydd hynny’n cyflymu’r broses rheoli a thalu ac yn cael gwared ar yr angen i ddosbarthu sticeri dyrannu bob blwyddyn. Rydym yn argymell fod dewisiadau ar gyfer hyn yn cael eu hystyried a’u cyflwyno mewn amser i dymor 2020.
Cynnig pellach yw peidio ag ymestyn y gwasanaeth i wasanaeth drwy gydol y flwyddyn. Mae galw cyfyngedig am y gwasanaeth rhwng Rhagfyr a Chwefror, ac er ein bod wedi derbyn nifer fechan o geisiadau am wasanaeth drwy gydol y flwyddyn, mae’r rhan fwyaf o breswylwyr wedi derbyn y gwasanaeth sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd. Mae’r holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Ty yn derbyn gwastraff gardd drwy gydol y flwyddyn. Mae hefyd yn golygu bod cymhwysedd i gasglu gwastraff ailgylchu ychwanegol sy’n hel dros gyfnod y Nadolig sy’n un o’n amseroedd prysuraf o’r flwyddyn.
Mae hefyd yn cael ei argymell, ar ôl adolygiad gofalus, na chynigir cyfradd gostyngol i breswylwyr ar fudd-daliadau. Byddai’n anodd darparu gostyngiad o’r fath heb olygu costau ychwanegol i breswylwyr eraill sydd ddim yn gymwys a byddai rheoli system o'r fath yn gostus ac yn gofyn amser wrth gyflawni gwiriadau a monitro newidiadau mewn amgylchiadau. Mae traean o’r rheiny sydd wedi prynu'r gwasanaeth yn rhan o Gynllun Rhyddhad Treth Y Cyngor.