Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae Cyngor Sir y Fflint yn Symud
Published: 21/11/2018
Yn dilyn cyhoeddiad yn gynharach eleni mewn perthynas â’r gwaith o ddymchwel Cam 3 a Cham 4 o Neuadd y Sir yn Yr Wyddgrug, bydd Swyddogion y Cyngor yn dechrau symud i mewn i swyddfeydd y Cyngor yn Ewlo, a elwir yn Ty Dewi Sant, yr wythnos nesaf.
Mae’n bwysig nodi pa adrannau sydd yn symud a phryd, rhag ofn eich bod angen cysylltu â’r Cyngor. Bydd pob cyfeiriad e-bost a rhif ffôn yn aros yr un fath er mwyn cynnal parhad gwasanaeth.
Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol fydd yr adran gyntaf i symud, yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Tachwedd.
Bydd Gwasanaethau Addysg yn symud ar 4 Rhagfyr a bydd Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi yn symud yr wythnos ganlynol rhwng 10 - 14 Rhagfyr.
Mae gan adeilad Ty Dewi Sant faes parcio i ymwelwyr ar flaen yr adeilad ac mae’n rhan o ddatblygiad Parc Dewi Sant sy’n creu cyswllt lleoliadol cryf ac yn darparu enghraifft weladwy o ymrwymiad y Cyngor i'r Gymraeg.
Mae Neuadd y Sir yn Yr Wyddgrug yn hen adeilad sydd wedi cyflawni ei ddiben yn effeithiol ers sawl blwyddyn. Serch hynny, mae hefyd yn adeilad costus i’w gynnal ac mae’r Cyngor wedi edrych ar yr holl ddewisiadau sydd ar gael iddo i greu arbedion effeithlonrwydd yn yr hinsawdd ariannol heriol hon. Mae’r adeilad newydd hwn yn darparu safle modern a chost effeithiol er mwyn i’n staff allu cynnal gwasanaethau o ansawdd uchel yn y dyfodol.
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i geisio osgoi aflonyddwch a sicrhau bod y broses o symud mor esmwyth â phosibl ar gyfer y gwasanaethau allweddol hyn.