Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cefnogwch #CefnogiGalw
Published: 20/11/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar i breswylwyr, busnesau a sefydliadau lleol gefnogi ein hymgyrch #CefnogiGalw.
Mae’r ymgyrch, a fydd yn cael ei lansio yng nghyfarfod y Cyngor ar ddydd Mawrth 20 Tachwedd, yn pwyso am gyllid teg i lywodraeth leol ac i Sir Y Fflint. Nid yw’r ymgyrch yn un gan blaid wleidyddol, a gall unrhyw sy’n poeni am lywodraeth leol a gwasanaethau lleol ei gefnogi.
Bob blwyddyn mae cynghorau’n gorfod gosod cyllideb sy’n taro cydbwysedd rhwng eu hadnoddau a’u hanghenion gwario. Mae Sir y Fflint, fel pob Cyngor arall, wedi cael llai o gyllid gan y Llywodraethau o un flwyddyn i'r llall am ddegawd. Mae Sir y Fflint, fel un o’r cynghorau sy’n derbyn y lleiaf o gyllid am bob pen y boblogaeth yng Nghymru, yn benodol agored i effeithiau llymder.
Nid yw sefyllfa gyfredol y gyllideb genedlaethol yn gynaliadwy. Mae Gwasanaethau lleol o dan fygythiad parhaus. Trwy gyfuniad o fod yn arloesol, gwneud y gorau o adnoddau a derbyn cefnogaeth wych gan ein cymunedau wrth ddygymod â newid a chymryd mwy o gyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau ar eu cyfer ei hunain, rydym ni yn Sir y Fflint wedi llwyddo i ddod drwyddi. Ond gallai 2019/20 fod y flwyddyn y mae’r her i’r gyllideb yn syml iawn, yn un rhy fawr i ni i gyd.
Rydym yn wynebu toriadau pellach i’n grant Llywodraeth Cymru a does dim amddiffyniad yn erbyn costau chwyddiant, gwobrau cyflogau cenedlaethol a'r gofynion cynyddol am wasanaethau megis gofal cymdeithasol. Rydym yn wynebu bwlch cyllidol o dros £15m yn 2019/20.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Ynghyd ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rydym yn galw am i Lywodraeth Cymru gydnabod yn llawn bwysigrwydd y gwasanaethau y mae cynghorau yn eu cyflenwi – megis addysg a gofal cymdeithasol. Mae’r rhain yn wasanaethau a ddylai fod wrth galon blaenoriaethau’r Llywodraeth. Oni bai am ymyrraeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, yr unig opsiynau sy’n weddill i gydbwyso’r gyllideb yw Treth y Cyngor a throi at arian sydd wrth gefn, nid oes yr un ohonynt yn opsiynau cynaliadwy.
“Os ydych yn #CefnogiGalw, byddwch yn helpu eich cyngor i sicrhau ei gyfran deg o arian y wlad tra ar yr un pryd yn help i warchod ein hysgolion a’n gwasanaethau gofal rhag caledi parhaol.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
“Rydym wedi llwyddo i ddod o hyd i £8.5M o ddatrysiadau cyllid pellach – os ydym yn cynnwys y cynnydd arfaethedig o 4.5% mewn Treth Cyngor – ond mae dal angen £6.7M arall arnom. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru #CefnogiGalw am £5.6m yn fwy o gyllid i Sir y Fflint. Os ydynt yn cytuno, yna gallwn warchod gwasanaethau lleol a chadw’r cynnydd Treth Cyngor i lawr.”
Byddwch yn rhan o’r ymgyrch – dyma sut:
- Ymwelwch â gwefan y Cyngor www.siryfflint.gov.uk/EinSiryFflint19-20 – er mwyn canfod mwy o wybodaeth am y modd y mae lleihau cyllidebau yn effeithio ar wasanaethau lleol.
- Dangoswch eich cefnogaeth tuag at #CefnogiGalw trwy e-bostio neu ysgrifennu at eich Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol lleol yn gofyn am ariannu tecach i'r holl gynghorau.
- Gadewch negeseuon cefnogol trwy fynd i www.siryfflint.gov.uk/CefnogiGalw
- Dilynwch ein hymgyrch ar ein cyfrif Twitter - @CSyFflint