Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Double Click Design and Print
Published: 19/10/2018
Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gydnabod datblygiad Double Click a pharhau i gefnogi a hyrwyddo’r fenter gymdeithasol hon yn ei gyfarfod nesaf ar 23 Hydref.
Mae Double Click wedi datblygu fel menter gymdeithasol gwbl annibynnol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnig mwy o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant i'r holl staff, gan gynnwys pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Maen nhw wedi llwyddo i gael cyllid gan y Loteri sydd wedi’u galluogi i brynu'r cyfarpar diweddaraf sy'n helpu'r busnes i ddatblygu.
Mae Double Click bellach yn gweithio gyda’i bartneriaid i barhau i wella profiadau gwirfoddolwyr a rhai dan hyfforddiant. Mae ganddyn nhw bellach gysylltiadau busnes clos gyda sefydliadau hyfforddi a chwmnïau lleol. Mae’r llyfr archebion yn llawn, ac mae’n cynnwys BIPBC, NEWydd, GOGDdC a Dechrau’n Deg.
Maen nhw rwan yn gallu bod yn fwy hyblyg a chreadigol gyda'u rhaglenni hyfforddiant ac mae ganddynt dair lefel o hyfforddiant i'w cynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
“Mae Double Click wir wedi bod yn stori am lwyddiant ac mae'n mynd o nerth i nerth. Mae gan y rhai sydd ar y Bwrdd Cyfarwyddo gyfoeth o sgiliau a gwybodaeth sy'n gallu eu cynghori. Mae’r staff yn arbennig ac mae pawb wastad yn cael croeso wrth alw heibio.
“Yn ddiweddar, bu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Chludiant, Ken Skates, yn gweld y fenter gymdeithasol. Roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod y cynnydd gwych roedd Double Click wedi’i wneud fel menter gymdeithasol a gwelodd efo’i lygaid ei hun fel roedden nhw'n darparu hyfforddiant a gwaith mewn awyrgylch cefnogol."