Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae Sir y Fflint yn hyrwyddo ei hymrwymiad i wella safon toiledau cyhoeddus
Published: 12/07/2023
Bydd gofyn i Aelodau Cabinet gefnogi adolygiad o Strategaeth Toiledau Lleol Sir y Fflint a chynllun gweithredu pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf.
Mae Rhan 8 Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 yn cynnwys Darparu Toiledau ac yn cyflwyno cyfrifoldebau i awdurdodau lleol ddarparu strategaethau toiledau lleol.
Yn siarad cyn y cyfnod ymgynghori ffurfiol am 12 wythnos ar y Strategaeth Toiledau Lleol ddiwygiedig, dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol:
“Hoffwn ddiolch i’r holl bobl sydd wedi cwblhau holiadur am y cyfleusterau presennol yn Nhreffynnon, yr Wyddgrug a Thalacre.
Mae’r adborth a gafwyd wedi rhoi cipolwg da i ni o’r materion a brofir gan breswylwyr ac ymwelwyr i Sir y Fflint. Mae’r adborth hwn wedi darparu cyfeiriad ar gyfer y Strategaeth Toiledau Lleol ddiwygiedig, sy’n alinio â’n hymrwymiad i wella safon cyfleusterau ar draws y sir dros y 4-5 mlynedd nesaf.
Mae’r strategaeth ddrafft yn cynnig cyfleusterau newid gwell i fabanod a chyfleusterau lleoedd newid i bobl ag anableddau.
Rydym hefyd yn anelu i sicrhau dyfodol y ddarpariaeth bresennol yn ogystal ag edrych am ffyrdd i gynyddu nifer y toiledau cyhoeddus sydd ar gael a chynyddu mynediad i bob grwp o bobl.
Bydd yr Aelodau Cabinet yn ystyried y Strategaeth Toiledau Lleol a’r cynllun gweithredu uchelgeisiol sy’n archwilio’r posibilrwydd o ffrydiau cyllido eraill a’r posibilrwydd o wneud toiledau mewn adeiladau eraill sy’n eiddo i’r Cyngor ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio a gweithio gyda’r sector preifat i helpu i hyrwyddo eu cyfleusterau.
Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Cabinet, bydd y Strategaeth Ddrafft Toiledau Lleol yn destun cyfnod ymgynghori statudol o 12 wythnos.