Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Yr Arth Faethu yn croesawu Gofalwyr Maeth newydd Sir y Fflint
Published: 29/06/2023
Pan ddaeth merch Craig a Clare â’r Arth Faethu adref y llynedd, cyffyrddodd â chalonnau'r teulu i gyd a’u hannog i gymryd y cam nesaf i fod yn Ofalwyr Maeth.
Mae ysgolion cynradd ar draws Sir y Fflint wedi croesawu’r Arth Faethu i mewn i’w hystafelloedd dosbarth fel rhan o ymgyrch newydd a lansiwyd gan Maethu Cymru Sir y Fflint i hyrwyddo maethu. Caiff plant ym Mlwyddyn 3 a 4 gyfle i fynd â’r Arth Faethu adref am benwythnos er mwyn gofalu amdani.
Nod ymgyrch yr Arth Faethu yw codi ymwybyddiaeth o faethu yn yr awdurdod lleol ac amlinellu’r angen brys i recriwtio mwy o ofalwyr maeth yn Sir y Fflint.
Cyn i’r ymgyrch gael ei lansio’n swyddogol yn gynharach eleni, bu ysgol gynradd yn Sir y Fflint yn treialu’r fenter y llynedd a merch Craig a Clare oedd un o’r plant cyntaf i fynd â’r Arth Faethu adref a gofalu amdani. Llwyddodd yr ymgyrch i annog y teulu i gysylltu â Maethu Cymru Sir y Fflint ac yn fuan wedyn, dechreuodd eu proses o fod yn ofalwyr maeth, ac maent newydd gael eu cymeradwyo.
Dywedodd Clare a Craig:
“Rydym wedi meddwl am faethu erioed, yna daeth yr Arth Faethu adref o ysgol ein merch. Cymerodd ein merch ofal mawr o’r Arth ac roedd hi’n dod i bobman gyda ni. Roedd yn neges wych.
Gwnaethom gysylltu â Maethu Cymru Sir y Fflint a dechrau ein taith i fod yn ofalwyr maeth cymeradwy. Mae’r gwiriadau’n drylwyr ac maen nhw’n rhoi digonedd o amser i chi sicrhau eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir.
Rydym yn nerfus iawn ond yn gyffrous hefyd, ac rydym yn gobeithio gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd plentyn lleol.”
Ychwanegodd Neil Ayling, Prif Swyddog Cyngor Sir y Fflint:
“Mae’r Arth Faethu yn ffordd wych o rannu’r neges yn Sir y Fflint fod maethu yn rôl mor bwysig a gwerth chweil, y gall pobl gyffredin yn ein cymunedau ei gwneud a chael effaith fawr mor gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc.
Rwyf wrth fy modd o glywed bod yr Arth Faethu wedi helpu Craig a Clare i fynd amdani ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt yn y rhan newydd a chyffrous hon o’u bywydau.
Rydym yn croesawu Clare a Craig i mewn i’n tîm ac edrychwn ymlaen at eu cefnogi trwy gydol eu taith at faethu."
Os hoffech ragor o wybodaeth am fod yn ofalwr maeth gyda’ch awdurdod lleol yn Sir y Fflint, cysylltwch â Melissa ar 01352 701965 neu mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.maethucymru.siryfflint.gov.uk/cy/Home.aspx