Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cau Pont Sir y Fflint 5 - 9 Mehefin 2023
Published: 19/05/2023
Er mwyn caniatau ar gyfer gwaith hanfodol, bydd Pont Sir y Fflint ynghau i’r ddau gyfeiriad, rhwng 8am a 6pm am bump diwrnod yn dechrau ar ddydd Llun, 5 Mehefin ac yn dod i ben ar ddydd Gwener, 9 Mehefin 2023.
Bydd traffig sy’n teithio tua’r gorllewin yn cael ei ddargyfeirio yng Ngham 4 Cylchfan Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a thraffig tua’r dwyrain o ffordd ymadael Ffordd Kelsterton.
Bydd llwybrau amgen yn cynnwys arwyddion clir yn ystod y cyfnod cau.
A fyddech cystal â chynllunio eich siwrnai ymlaen llaw i osgoi oedi diangen.