Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arolwg ffôn yn Sir y Fflint
Published: 02/10/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnwys arolwg ffôn am arferion siopa.
Mae cwmni NEMS Market Research wedi cael ei gomisiynu i gynnal yr arolwg, a ddechreuodd ar 26 Medi 2018.
Deallwn bod dryswch wedi bod ynghylch cyfreithlondeb yr arolwg hwn a hoffem ymddiheuro am gyfraniad y Cyngor at y dryswch hwnnw.
Hoffem sicrhau preswylwyr nad sgiâm yw’r arolwg hwn ac rydym yn annog cymaint o bobl ag sy’n bosibl i gymryd rhan. Mae’r wybodaeth a gesglir yn rhan o Astudiaeth Cynhwysedd Manwerthu er mwyn helpu i feithrin dealltwriaeth o arferion siopa trigolion Sir y Fflint. Bydd canlyniadau’r arolwg yn helpu i lunio’r Cynllun Datblygu Lleol.
Mae’r arolwg wedi’i anelu at y person sy'n siopa ar gyfer y cartref fel arfer. Bydd y cwestiynau’n ymwneud â siopa am fwyd a nwyddau eraill a bydd yn cymryd tua chwech i saith munud i'w gwblhau.
Mae’r cartrefi a ddewiswyd i gymryd rhan yn yr arolwg wedi cael eu dewis ar hap. Ni chesglir unrhyw wybodaeth bersonol a gallech dderbyn galwadau yn ystod y dydd, gyda’r nos neu ar benwythnosau.
Os hoffech unrhyw eglurhad pellach am yr arolwg ffoniwch 01352 703213 i siarad â swyddog yn y Tîm Polisi Cynllunio.