Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP)
Published: 25/09/2018
Fe fydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint, pan fydd yn cyfarfod ar 25 Medi, yn cael cais i gymeradwyo adroddiad yn amlinellu’r newidiadau yn yr angen am dai ers rhoi'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) ar waith am y tro cyntaf. Hefyd y rhesymeg dros adolygu a diwygio rhannu deiliadaeth yr eiddo i’w gweithredu ar gyfer gweddill cyfnod y rhaglen.
Bydd yr adroddiad hefyd yn rhoi’r manylion diweddaraf i’r Cabinet ar y nifer o eiddo rhent fforddiadwy a chymdeithasol sydd wedi’u cwblhau a chynlluniau arfaethedig.
Cafodd Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Sir y Fflint ei chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Medi 2014 i ddarparu 500 o eiddo Cyngor newydd rhent cymdeithasol a rhent fforddiadwy arfaethedig dros gyfnod o bum mlynedd, yn ogystal â 112 o eiddo preifat ar gyfer eu gwerthu ar y farchnad ym Maes Gwern, Yr Wyddgrug.
Mae Camau 1 a 2 o’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol i gyd wedi’u cwblhau ac mae disgwyl i waith adeiladu ar gyn Ganolfan Melrose, Shotton, gael ei gwblhau ym mis Tachwedd 2018.
Mae gwaith adeiladu ar safleoedd Cam 3 yn dechrau'r mis hwn (Medi) ym Maes Gwern, Yr Wyddgrug, Llys Dewi, Penyffordd, Treffynnon a chyn safle’r Cyngor yn Dobshill.
Mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau fod y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol yn darparu'r math cywir o dai sydd eu hangen a hefyd ystyried y pwysau mewn perthynas â'r galw cynyddol am dai cymdeithasol, digartrefedd a’r diffyg cymysgedd addas o dai i gwrdd â'r galw cynyddol.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
“Yn ychwanegol at y newidiadau sydd wedi eu gweld o ran Diwygio Lles ers dechrau’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol, mae yna symudiad ym maint yr eiddo sydd eu hangen o’i gymharu â'r hyn sydd wedi ei ddarparu'n flaenorol drwy dai cymdeithasol. Canlyniad hyn yw galw cynyddol am eiddo nad ydynt ar gael yn barod yn y stoc o dai cymdeithasol na’r sector rhentu preifat. Mae hyn yn cynyddu amseroedd aros a’r niferoedd ar y gofrestr dai, yn ogystal â chael effaith ar y nifer o bobl sy’n cyflwyno’u hunain fel pobl ddigartref i’r Cyngor, lle mae gennym ddyletswydd statudol i ganfod llety.
“Felly rydym ar hyn o bryd yn datblygu cynlluniau i gynnwys cynlluniau yng ngham nesaf y rhaglen er mwyn mynd i'r afael â hyn."