Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cydnabyddiaeth ar gyfer Canolfan Cymorth Buan
Published: 18/09/2018
Roedd Cyngor Sir Y Fflint yn falch o dderbyn cydnabyddiaeth i’r Ganolfan Cymorth Buan yn y Gwobrau Partneriaethau (POP) yn ddiweddar.
Mae’r Gwobrau yn dathlu mentrau ar draws Gogledd Cymru sydd wedi arddangos gwaith partneriaeth rhagweithiol i ddatblygu atebion i gyflyrau sylfaenol sy’n cyfrannu at broblemau diogelwch y cyhoedd.
Daeth Canolfan Cymorth Buan Sir y Fflint yn ail yn y Gwobrau yn ddiweddar. Mae’r fenter arloesol hon yn darparu cefnogaeth mwy amserol a chydlynol i deuluoedd â mwy o anghenion. Mae’n canolbwyntio’n helaeth ar sefydliadau’n cydweithio i gyrraedd plant a theuluoedd a fyddai’n elwa o gymorth buan. Y sefydliadau partner yw Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir y Fflint, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
“Rwy’n falch bod y Ganolfan Cymorth Buan wedi’i chydnabod fel hyn. Mae hwn wir yn ddull sydd ar flaen y gad o ran cydweithio gyda phartneriaid amlasiantaeth i gefnogi rhai o'n teuluoedd mwyaf bregus.
“Y prif nod yw bod sefydliadau'n cydweithio i sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn gallu cael gwybodaeth a chyngor am gymorth cynnar perthnasol. Bydd y Ganolfan Cymorth Cynnar yn cefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau ymdopi a mynd i’r afael â phroblemau cyn iddynt waethygu.”