Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyngor yn anrhydeddu Diwrnod Gwasanaethau Brys 999 cyntaf
Published: 11/09/2018
Nododd Gyngor Sir y Fflint y Diwrnod Gwasanaethu Brys 999 cyntaf trwy chwifio’r faner yn Neuadd y Sir.
Croesawodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Paul Cunningham bawb i’r seremoni drwy ddweud:
“Rydym yma i godi’r faner 999 am 9am ar y 9fed diwrnod o’r 9fed mis, sy’n egluro cynharwch yr awr – ond gwyddwn nad yw’n gwasanaethau brys byth yn cysgu.
“Fel cyn ddiffoddwr tân fy hun, roeddwn yn falch o fod yn rhan o ddiwrnod gwasanaethau brys cyntaf y Deyrnas Unedig, lle gallwn gofio cyfraniad yr holl wasanaethau brys: Y Gwasanaeth Ambiwlans, Gwylwyr y Glannau, y Gwasanaeth Tân ac Achub, yr Heddlu a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub i’n bywydau.
“Ar ran pobl Sir y Fflint, hoffwn ddiolch i chi am eich gwaith, a gofynnwn i chi gyfleu’r neges o ddiolch i’ch cydweithwyr nad ydynt yma heddiw.
“Yn fy rôl fel Cadeirydd y Cyngor, mae’n rhaid i mi grybwyll y rôl sydd gan y Cyngor Sir mewn nifer o argyfyngau, yn aml yn cefnogi’r rhai hynny ar y rheng flaen.”
LLUN: Cadeirydd Sir y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham gyda Chynghorwyr Sir eraill, cynrychiolwyr y gwasanaethau brys a’r Arglwydd Raglaw Henry Featherstonhaugh