Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyflwyno Gwyfyn yr Yd i Bwll Dwr Rawlings, Cei Connah
Published: 17/07/2018
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn rheoli nifer o byllau dwr yn y sir
i’w cadw’n ffafriol ar gyfer Madfallod Dwr Cribog a rhywogaethau cynhenid
eraill.
Maer pyllau dwr hyn yn agored i blanhigion pyllau dwr goresgynnol sy’n cael eu
mewnforio yn ddiarwybod o ganolfannau garddio. Un planhigyn o’r fath yw Rhedyn
Azolla. Mae pwll dwr yn y sir bellach wedi ei heintio â’r rhedyn hwn a fydd, os
caiff ei adael i dyfu’n ddirwystr, yn creu gorchudd blanced dros y pwll dwr a
fydd yn y pen-draw yn niweidiol i’r rhywogaethau sy’n byw ynddo.
Bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn defnyddio Gwyfyn yr Yd fel
bio-reolaeth a fydd yn bwyta’r rhedyn yn naturiol ac yn adfer y pwll dwr i
gyflwr ffafriol.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y
Cynghorydd Carolyn Thomas:
“Diolch i nawdd gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Building Wildlife, gallwn reoli’r
rhywogaeth oresgynnol hon mewn modd ecogyfeillgar, fel bod y pwll dwr unwaith
eto’n dod yn hafan i’r Madfallod Dwr Cribog.”