Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad deddfwriaeth ddigartrefedd
Published: 17/07/2018
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn diweddariad ar reolaeth deddfwriaeth
newydd o fewn Deddf Tai (Cymru) 2014 pan fydd yn cyfarfod nes ymlaen yn y mis
hwn.
Gofynnir i’r Cabinet hefyd gefnogi’r themâu sy’n codi yn y Strategaeth
Ddigartrefedd Rhanbarthol ac i nodi’r heriau y mae’r Cyngor wedi eu hwynebu
wrth ddod o hyd i opsiynau tai addas i aelwydydd. Byddant hefyd yn adolygu’r
cynlluniau i leihau peryglon pellach a bydd gofyn iddynt hefyd gymeradwyor
cynlluniau i leihau digartrefedd yn y Sir.
Cyflwynodd Deddf Tai (Cymru) 2014 ddeddfwriaeth ddigartrefedd newydd yn Ebrill
2015. Mae Cynghorau Gogledd Cymru yn datblygu Strategaeth Ranbarthol â
chynlluniau gweithredu lleol ym mhob sir. Mae’r strategaeth yn datblygun dda a
chaiff ei chyflwyno ir Cabinet ei chymeradwyo’n derfynol ddiwedd y flwyddyn.
Mae’r themâu yn cynnwys: Pobl (digartrefedd ieuenctid, pobl syn cysgu ar y
stryd, anghenion cymhleth a phobl syn gadael carchar); Cartrefi (Tai yn
Gyntaf, mynediad gwell at letyau - cyflenwad, llety dros dro); a Gwasanaethau
(atal, lliniaru diwygiadau lles, iechyd).
Nododd Adolygiad Digartrefedd Sir y Fflint nad yw argaeledd llety fforddiadwy
ac addas ar draws y sectorau tai yn ddigonol er mwyn cwrdd â’r galw presennol.
Cyflwynodd y ddeddfwriaeth ganolbwynt clir ar atal problemau yn hytrach na dim
ond helpu pobl sydd mewn argyfwng ac, os caiff ei gweithredun effeithiol, y
nod yw lleihau nifer yr aelwydydd syn profi trawma digartrefedd.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet ar gyfer Tai Cyngor Sir y
Fflint:
“Mae swyddogion y Cyngor wedi ymrwymo i weithio’n galed i sicrhau newid, ac i
wella bywydau rhai o’r preswylwyr sydd dan y mwyaf o fygythiad mewn cyfnodau
anodd.’ Mae nawdd yn parhau i ostwng ac mae nawdd grant yn mynd yn anos cael
mynediad ato, ond dengys yr adroddiad hwn bod Sir y Fflint yn gwneud popeth yn
eu gallu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni i fynd i’r afael â’r broblem
gymdeithasol hon.”
Yn 2017/18, mi wnaeth 3,495 o aelwydydd droi at y Cyngor am gymorth tai sy’n
dangos cynnydd o 3.9% ers y flwyddyn flaenorol. Roedd 1,715 o’r aelwydydd hynny
wedi eu hasesu yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref - gostyngiad o
39% ers y flwyddyn ariannol flaenorol.
Y canolbwynt yw atal digartrefedd a galluogi aelwyd i aros yn eu cartref pan fo
hynny’n bosibl. I gyflawni hyn, mae’r gwasanaeth angen cyflenwad o opsiynau tai
sy’n fforddiadwy, ond mae diffyg opsiynau ar gael ac ar hyn bydd y gweithredu
yn canolbwyntio.
Mae cyflenwad prin o opsiynau addas ar gael. Maer niferoedd ar y gofrestr
tai cymdeithasol yn cynyddu ac mae’r amseroedd aros ar gyfer eiddo gwag yn dod
yn hirach, yn enwedig ar gyfer ymgeiswyr sengl. Mae prinder lletyau ar gyfer
pobl sengl yn her enfawr wrth geisio lleihau digartrefedd. Gwaethygwyd hyn gan
y diwygiadau lles amrywiol sydd wedi eu cyflwyno ers 2013. Mae’r sector rhentu
preifat yn parhau i fod yn opsiwn tai ar gyfer nifer o bobl ac o safbwynt y
Cyngor mae’n darparu opsiwn pellach i unigolion sydd mewn angen brys am dai.
Mae Gogledd Ddwyrain Cymru (GDdC) yn cynnig cyflenwad pellach o opsiynau sector
preifat i aelwydydd. Fodd bynnag, mae heriau cynyddol wrth ddod o hyd i eiddo
addas a fforddiadwy yn y sector rhentu preifat.
Caiff llety fforddiadwy ar gyfer aelwydydd sengl eu cynnwys mewn cynnig ir
Gronfa Tai Arloesedd. Bydd y Cyngor yn gwneud cais am nawdd i gefnogi prosiect
âr agwedd tai yn gyntaf ac yn darparu tai o ansawdd uchel syn gysylltiedig
â chynlluniau gwaith a chyflogaeth i bobl sengl.
Yn Sir y Fflint, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i atal cysgu ar y stryd ac ar hyn o
bryd yn mynd y tu hwnt i’r ddyletswydd statudol ac yn darparu llety interim i
unrhyw un nad oes ganddynt le i aros beth bynnag yw eu statws angen
blaenoriaethol. Mae’r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i leihau’r defnydd o lety Gwely
a Brecwast (B&B) fel blaenoriaeth. Mae gweithredu’r newid yn cymryd amser, ac
er i’r defnydd o wely a brecwast gynyddu yn 2017/18, mae’r Cyngor wedi dechrau
gweld niferoedd yn gostwng ac yn wythnos gyntaf Mehefin 2018 nid oedd unrhyw
deulu mewn llety gwely a brecwast a darparwyd llety i 11 o aelwydydd sengl.