Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Newid arloesol i bolisi er mwyn cefnogi bywyd gwyllt a lles
Published: 12/04/2023
Mae Pwyllgor Craffu’r Amgylchedd a Chabinet Sir y Fflint wedi cefnogi newidiadau i bolisi torri gwair ledled y sir, sy’n amlinellu sut mae’r Cyngor yn rheoli ei ystâd glaswelltir.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi cyflwyno ardaloedd blodau gwyllt a llai o dorri gwair mewn ardaloedd, gyda chymorth cyllid grant gan Lywodraeth Cymru i gefnogi natur a lles ein cymunedau. Cafwyd ymateb hynod gadarnhaol ynghylch y newidiadau hyn gan y gymuned.
Mae ystâd glaswelltir mwy amrywiol yn darparu nifer o fuddion gan gynnwys rhwystrau swn a gweledol ar hyd ein ffyrdd, amsugno mwy o lygredd a dwr, ffordd well o storio carbon a chartref a ffynhonnell fwyd i’n bywyd gwyllt.
Cymerodd y Cynghorwyr ran mewn gweithdy Gwasanaethau Stryd a Bioamrywiaeth yn gynharach eleni i ddysgu mwy am golli bioamrywiaeth yn lleol, effeithiau defnyddio chwynladdwyr a chyfleoedd i newid arferion.
Mewn cam pwysig, roedd Pwyllgor Craffu’r Amgylchedd a’r Cabinet yn cefnogi’r newidiadau i’r polisi, a fydd yn caniatáu ehangu llai o dorri gwair, yn ogystal â rheolaeth torri a chasglu y tu hwnt i’n safleoedd blodau gwyllt. Mae’r polisi bellach yn cynnwys camau i gefnogi natur ym mhob ardal dan sylw, gan flaenoriaethu diogelwch defnyddwyr ffyrdd a sicrhau bod ein safleoedd yn edrych yn fwriadol, trwy ddefnyddio borderi torri gwair, llwybrau ac arwyddion lle bo angen.
Gyda dim ond 2% o gynefinoedd glaswelltir traddodiadol ar ôl yn y DU, mae’n bosibl i’r cam hwn greu cynefin pwysig ledled y sir, gan gefnogi peillwyr hanfodol ac amgylchedd iach naturiol, sy’n bwysig ar gyfer lles preswylwyr.
Yn ogystal â rheoli glaswelltir, ystyriodd y Cynghorwyr y defnydd presennol o chwynladdwyr ar draws ystâd y Cyngor, a bu iddynt gymeradwyo cynnig i leihau’r defnydd ohono. Defnyddir chwynladdwr seiliedig ar glyphosate gan amlaf ar gyfer chwyn, ond caiff ei ddosbarthu fel “Carsinogenig tebygol” gan Sefydliad Iechyd y Byd yn fyd-eang, ac mae ganddo amryw o effeithiau amgylcheddol negyddol, ac mae wedi’i wahardd mewn rhai gwledydd o’r herwydd.
Mae Cyngor Sir y Fflint eisoes wedi buddsoddi cyllid grant gan gronfa Llefydd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, mewn system Foamstream, sy’n trin chwyn ag ewyn poeth yn cynnwys startsh planhigion. Nawr, mae Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymo i ddefnyddio mwy o driniaethau amgen ac archwilio dewisiadau gwell ar gyfer pobl a’r amgylchedd yn Sir y Fflint.
Dywedodd Katie Wilby, Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant: “Mae’r newid hwn i reoli ystadau torri gwair a lleihau’r defnydd o chwynladdwyr yn rhan hanfodol o’n cynllun i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd”
Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi ac Aelod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi: “Mae’r cam gweithredu hwn yn arloesol yng Nghymru hyd y gwyddom ni, ac mae ein penderfyniad i gymeradwyo’r newidiadau hyn i’r polisi yn rhoi neges glir bod Cyngor Sir y Fflint o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd a’n bod yn cydnabod pwysigrwydd amgylchedd iach ar gyfer lles ein preswylwyr.”