Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canlyniadau’r ailasesiad o ffyrdd lleol ym Mwcle a’r ardaloedd cyfagos
Published: 30/03/2023
Yn y cyfnod cyn cyflwyno deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfyngiadau cyflymder 20mya, cafodd wyth cymuned ar hyd a lled Cymru eu dewis ar gyfer cam cyntaf y rhaglen genedlaethol.
Fel rhan o Gynllun Aneddiadau Cam Un, cafodd cyfyngiadau cyflymder 20mya eu cyflwyno ym Mwcle, Mynydd Isa, New Brighton, Drury, Burntwood, Bryn y Baal ac Alltami ar 28 Chwefror 2022.
Yn gyffredinol o blaid 20mya ar stadau preswyl ac o amgylch ysgolion, mynegodd pobl leol bryder ynglyn â’i gyflwyno ar brif ffyrdd a strydoedd (y prif lwybrau teithio).
Yn ymwybodol o’r pryderon hyn, mae trafodaethau rhwng Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru wedi’u cynnal dros y 12 mis diwethaf ac mae’r Cyngor wedi bod yn casglu barn trigolion lleol i helpu i ddylanwadu ar adolygiad a deall pryderon ynglyn â ffyrdd penodol. O ganlyniad i’r adborth hwnnw, mae Cyngor Sir y Fflint wedi ailasesu nifer o ffyrdd ym Mwcle a’r ardaloedd cyfagos.
Gan ddefnyddio’r meini prawf eithrio a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2022, mae deg ffordd leol bellach wedi’u dynodi fel rhai sydd â rhan hir a gwastad, sydd un ai’n bodloni’r eithriadau i gyfyngiadau terfyn cyflymder o 20mya, neu sydd angen asesiad pellach y tu allan i’r newid i 20mya yn y broses ddeddfwriaeth. Bydd y ffyrdd yma rwan yn mynd drwy ymgynghoriad statudol ym mis Gorffennaf, a gan dibynnu ar ganlyniad hwnnw, bydd terfynau sydd wedi’u hailasesu’n cael eu cyflwyno ym mis Tachwedd.
Mae rhestr lawn o’r ffyrdd sydd wedi’u dynodi a lleoliad yr eithriadau i’w gweld ar wefan y Cyngor https://www.siryfflint.gov.uk/20bwcle
ynghyd â chrynodeb o’r adborth a gafwyd gan drigolion lleol drwy’r arolwg aelwydydd a sesiynau gwybodaeth. Mae copïau o’r canlyniadau hefyd i’w gweld yn y Ganolfan Sir y Fflint yn Cysylltu ym Mwcle.
Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant:
“Fe fydd gwersi a ddysgwyd gan y Cyngor yn ystod Rhaglen Aneddiadau Cam Un rwan yn cael eu defnyddio yn y gwaith o gynllunio at gyflwyno 20mya yn genedlaethol ar 17 Medi 2023.
“Mae’r adborth a gasglwyd a chanlyniadau ailasesiad y Cyngor o ffyrdd lleol hefyd wedi eu rhannu â Llywodraeth Cymru.”