Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd 2023
Published: 07/03/2023
Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cefnogi’r ymgyrch Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff rhwng 6 a 12 Mawrth.
Yr alwad eleni yw Llwyddo. Nid Lluchio ac mae’n wythnos o weithredu mewn ymgais i ddod â’r genedl ynghyd i arbed amser ac arian trwy wneud i’r bwyd sydd gennym eisoes fynd ymhellach.
Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2022, fe ailgylchwyd bron i 4,700 tunnell o wastraff bwyd gennym yn Sir y Fflint, ac roedd mwy na hyn yn cael ei roi yn y bin du! Nid yw hyn yn gynaliadwy, gan fod gwastraffu bwyd yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd ac ein pocedi!
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes:
“Mae’n wych ein bod yn ailgylchu gwastraff bwyd ond rydym yn gwybod fod yna lawer o wastraff bwyd yn cael ei roi yn y bin du o hyd. Mae tua chwarter y gwastraff sy’n cael ei roi yn y bin du yn fwyd y gellid ei fwyta o hyd neu ei ailgylchu.
“O ystyried yr effaith y gall tyfu, cynhyrchu, cludo a gwaredu bwyd ei gael ar yr amgylchedd, mae angen i ni weithredu a dyma’r amser perffaith i wneud hynny.”
I helpu gyda chynllunio a rheoli faint o fwyd rydym yn ei brynu a’i fwyta, mae’r ymgyrch ‘Llwyddo. Nid Lluchio’ gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff, wedi rhoi cyngor ar gamau syml y gall pawb eu defnyddio i leihau faint o fwyd rydym yn ei wastraffu. Ceir rhagor o wybodaeth ar ei gwefan, i’ch rhoi chi ar ben ffordd! lovefoodhatewaste.com/article/wythnos-taclo-gwastraff-bwyd-2023.
Os ydych yn canfod fod gennych chi ormod o fwyd, ystyriwch ei roi i’r banc bwyd lleol neu’r oergell gymunedol fel y gall eraill yn y gymuned wneud defnydd ohono. Sylwch mai dim ond bwyd heb ei ddefnyddio/heb ei agor y mae modd ei roi i’r cyfleusterau hyn.